Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Lisa, Carwen, Dai ac Aled gyda'r fersiwn o'r gan Ffermwyr Ifanc gweithgar Felinfach
Hydref 2007
Torri, gludo, peintio, coginio, dawnsio, canu, gwnïo...a chyd-weithio'n ddiwyd. Dyna beth fu aelodau C.FF.I. Felinfach yn eu gwneud bron hyd at fis cyn y rali.

Er na chafwyd llwyddiant ysgubol, bu'n rali i'w chofio i nifer o'n haelodau.

Bu dwy o 'faster chefs' ifancaf y clwb, sef Rhian a Fiona, yn coginio pryd iachus i blant ysgol - braf oedd eu gwylio fore'r rali wrth iddynt gystadlu, a gweld dwy wên lydan ar draws wynebau'r ddwy wrth iddynt fwynhau'r profiad.

Yn trefnu arddangosfa o flodau oedd Gwenllian - roedd ei gwaith yn wledd i'r llygaid, tra bu Eifiona'n creu bwrdd du ar gyfer plentyn a oedd yn seiliedig ar y thema '5 y dydd'.

Cipiwyd y wobr gyntaf gan Lisa, Carwen, Dai ac Aled gyda'r fersiwn o'r gan "Flying the Flag" (Scooch) yng nghystadleuaeth y Seren Wîb, ac yn goron ar hynny, chael cyfle i gynrychioli'r Sir yn y Sioe Frenhinol!

Bu yna domato (Eirian), moron (Elfed), banana (Mair) a gwrawnwin (Alwen) yn rhedeg o amgylch caeau Gafryw, a hynny er mwyn cwblhau'r cwrs "It's a Knockout". Chwarae teg i'r pedwar, roedd hi'n dipyn o gamp cerdded yn y gwisgoedd 'ma, heb sôn am neidio i mewn i bwll o ddŵr ac ati!!

Bu Mark a Rhian yn brysur yn addurno wellingtons a dynwared yr arweinydd wrth gymryd rhan mewn ymarfer yoga, (rwy'n siŵr fod y gystadleuaeth hon werth eu gweld!), tra bu Eirwyn a Jonathan yn cneifio, Sian a Mererid yn paratoi smoothie iachus gydag Alwen, Carwen, Irfon a Sian wrth yr ystafell. Bu pedwar o'n haelodau hefyd yn cystadlu ar y barnu lilmosins ddydd Mercher cyn y rali, sef Eilir, Irfon a Rhys (a ddaeth yn 3ydd).

Eleni cystadlom yng nghystadleuaeth newydd sbon, sef creu arwydd i hysbysebu'r rali - cawsom lawer o hwyl wrth gynllunio a chreu'r arwydd, a daeth llwyddiant ar ein rhan wrth i ni ddod yn 3ydd. Wedi'r holl gystadlu brwd, rhaid oedd ymlacio a chymdeithasu ymysg aelodau eraill y Sir yn nawns y rali!

Yn fuan wedyn y dilynodd y Sioe Frenhinol, a chredwch chi fi, roedd hi'n dipyn o gamp i ennill y gystadleuaeth Seren Wîb, ond roedd hi'n fwy o gamp i geisio trefnu ymarferion cyn y Sioe Frenhinol, gan fod y tywydd sych yn golygu bwrw at y silwair!!

Er gwaethaf hyn oll, fe llwyddom i gipio'r 5ed wobr gyda dros fil o bobl yn y dorf yn ein cymeradwyo! Profiad bythgofiadwy! Aelodau'r grŵp oedd Aled, Emyr, Carwen a Lisa.

Daeth llwyddiant pellach ar ran y clwb, wrth i Carwen, Eirian, Alwen a Rhys sicrhau fod y clwb yn dod yn y 3ydd safle yng nghystadleuaeth Hyrwyddo'r Clwb, wedi diwrnod llawn o gystadlu rhwng y cyflwyniad, paratoi'r byrddau arddangos, yn ogystal â'r cyfweliad.

Bu'r Sioe Frenhinol yn ddigwyddiad pwysig iawn eleni felly yn hanes y clwb. Diolch i'r holl rai a fu yn ein cynorthwyo ym mha bynnag fodd, yn arbennig i Gerallt Perthneuadd a Mattie, ac i Wyn Plas am sicrhau fod yr ystafell a'r offer i gyd yn cyrraedd y Rali yn Gafryw a'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd mewn un darn!

Ac o'r Sioe Frenhinol i Sioe Llambed- bu tri o'n haelodau'n cystadlu ar y barnu stoc, sef Eilir, Rhys ac Irfon, gan gipio'r drydydd wobr, tra bu Carwen, Alwen a Carys (un o'n harweinyddion) yn stiwardio ar stondin C.FF.I.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Eirian, Carwen a Carys wedi bod yn brysur yn creu cynllun busnes a fydd yn ychwanegu £250 i goffrau'r clwb, lle bydd yn rhaid i ni wneud cyflwyniad a chreu cardiau cyfarch i'w gwerthu yn y gymuned. Pob lwc i chi yn y gystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal yn fuan!

Gyda blwyddyn gron yng nghalendr y clwb wedi dirwyn i ben, a fy nghyfnod innau fel Cadeirydd y clwb yn dod i derfyn, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'n llywydd, Mattie, ein harweinyddion, Gerallt, Carys, Elgan, Owen a Ceredig, ac i'r rhai hynny a fu yn ein hyfforddi, cynorthwyo yn mha bynnag fodd ac yn ein cefnogi drwy gydol y flwyddyn. Edrychwn ymlaen at flwyddyn arall lewyrchus yn hanes y clwb.

gan Carwen Williams, Cadeirydd y Clwb


Mwy am y Ffermwyr Ifanc
  • Sioe Frenhinol Llanelwedd
  • Dathliadau'r Mudiad yn 70
  • Canlyniadau a lluniau o Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2006 yn Bont

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý