Bu plant yr ysgol yn diddanu'r gynulleidfa yn y theatr yn Felin-fach ar nos Fercher Mai 24ain. Cafwyd perfformiadau graenus gan y plant i gyd, ac 'roeddent yn hollol gartrefol ar y llwyfan.
Yn yr ail hanner bu'r cyn ddisgyblion yn dangos eu doniau amrywiol. Yn ystod yr egwyl tynnwyd raffl. Y gwobrau oedd: llun dyfrliw o'r ysgol a enillwyd gan Mr. W. Jones, Derwen Gam; clustog i ddathlu'r achlysur a'r enillydd oedd Mrs. Margaret Davies, Tŷ Coch. Enillydd y plât gyda llun o'r ysgol arno oedd Mrs. Glenys Edwards, Pennant. Llywydd y noson oedd Mrs. Eulanwy Shareem, (Foel gynt) a fu'n hel atgofion o'r amser hapus a dreuliodd yn ysgol Dihewyd.
Dydd Sadwrn, Mai 27ain, er gwaetha'r tywydd diflas yn y bore, mwynhaodd pawb Ffair Dalis. 'Roedd y neuadd yn llawn o bobl yn prynu nwyddau o'r stondinau amrywiol. Ein gwraig wâdd oedd Mrs. Carol Mitchell (Castle Hill) a dorrodd gacen y dathlu a chafwyd araith bwrpasol ganddi. Yn ystod y prynhawn gwelwyd nifer o falŵnau lliwgar yn hedfan ar draws y dyffryn a phawb yn gobeithio y byddai ei balwn nhw yn hedfan yn bell dros y môr er mwyn ennill gwobr.
Bwyd a dawnsio
'Roedd awydd bwyd ar bawb erbyn hyn a chafwyd barbiciw blasus yn yr haul cyn mynd ati i ddawnsio yn y twmpas dawns oedd dan ofal Mr. Erwyd Howells. Aeth pawb adref wedi blino ond wedi mwynhau diwrnod o ddathlu.
I gloi'r dathliadau cafwyd Cymanfa Ganu ar nos Sul, Mai 28ain yng Nghapel Bethlehem Dihewyd. Mrs. Beti Davies (Ffosdwn gynt) oedd yn arwain y canu a'r gyfeilyddes oedd Miss Hilary- Owen (Pantygwiail). Bu'r ddwy yn gweithio yn galed er mwyn i r canu fod yn hwyliog. 'Roedd yn braf gweld y capel yn llawn a phawb yn mwynhau canu yr emynau. Llywydd y noson oedd Mr. Dewi Davies, (Yr Ynys) a chafwyd ganddo yntau araith werthfawrogol o'r amser a dreuliodd yn Ysgol Dihewyd.
Dymuna Staff a Phlant Ysgol Gynradd Dihewyd ddiolch o galon i bawb am eich cefnogaeth yn ystod yr wythnos ddathlu. Codwyd swm anrhydeddus o dros wyth mil o bunnau.
|