Ymddangosodd erthygl amdanynt yn y `Central Districts Farmer' yn Ynys y Gogledd o dan y penawd
'Cneifwyr tramor yn cael eu gwethfawrogi gan y diwydiant'.
Mae cneifwyr o ben draw'r byd yn dod i Seland Newydd yn eu niferoedd, ac yn cael eu croesawu gan y diwydiant!"
Dywed Motu Tua, Llywydd Cymdeithas Contractwyr Cneifio Seland Newydd sydd yn gwneud y trefiiiadau o Pahiatua - "allan o'n 24 cneifiwr y tymor yma, mae 5 yn dod o Gymru neu'r Alban. Fel arfer byddant yma i weithio o fis Rhagfyr i fis Mawrth, a byddwn i'n darparu llety iddynt. Maent yn dod am y profiad yn hytrach na'r arian", meddai.
Yna mae'r erthygl yn mynd ymlaen i sôn am Dafydd a Carwyn y ddau gefnder. Erbyn hyn, mae'r ddau wedi symud lawr i Ynys y De i deithio cyn dod adre ganol mis Mawrth. Cawn fwy o'r hanes (gobeithio) bryd hynny.
|