Roedd dydd Sul, Gorffennaf 12fed yn ddiwrnod arbennig yn Nihewyd pan fu dathlu canmlwyddiant ail-adeiladu Capel Bethlehem.
Sefydlwyd achos annibynnol yn Nihewyd yn y flwyddyn 1843, yn gangen o Gapel Neuaddlwyd ond ym 1909 penderfynwyd fod angen adnewyddu'r adeilad gan iddo gael ei daro gan fellten, felly aeth y gweinidog ar y pryd, y Parchg. J.T. Parry ati i godi'r arian.
Gwnaed hynny drwy benderfyniad yr aelodau a thrwy garedigrwydd eglwysi eraill ym mhell ac agos, a thrwy lafur cariad trigolion yr ardal llwyddwyd i godi adeilad hardd ac ar ddydd Sul, Gorffennaf l8fed 1909 cynhaliwyd yr oedfa gyntaf yn y capel newydd a oedd yn glir o ddyled.
I gyd-fynd a'r dathliadau cyhoeddwyd llyfr swmpus a hynod ddiddorol yn cynnwys hanes cynnar y capel, copi o restr y tanysgrifiadau a'r cyfraniadau a wnaed ym 1908-09 tuag at godi'r capel newydd.
Ceir ynddo hanes rhai o'r ymddiriedolwyr cynnar hynny, atgofion a lluniau cyn-aelodau a'u teuluoedd, atgofion a lluniau rhai o'r aelodau presennol a chyfarchion oddi wrth gyn¬-aelodau a chyfeillion yr Achos.
Ar ddechrau'r mileniwm newydd sylweddolwyd fod angen adnewyddu'r adeiladau a'u dwyn i fyny i'r safonau presennol, felly aeth yr aelodau ati i sicrhau grantiau i'w cynorthwyo i gyfarfod a'r costau hynny.
Erbyn blwyddyn y dathlu roedd y gwaith wedi ei gwblhau, y coed wedi eu trin, ffenestri newydd yn y capel a'r festri, a'r toiledau wedi eu hadnewyddu - llawer o'r gwaith wedi ei wneud yn wirfoddol. Mae'r fynwent hefyd wedi cael sylw, a choed wedi eu plannu o'i chwmpas, a hyfryd yw ei gweld yn cael ei chadw a'r dyledus barch.
Mae'r Ysgol Sul hefyd yn parhau mewn bodolaeth, ac mae diolch i'r athrawon sy'n rhoi o'u hamser i roi sylfaen i blant yr ardal gan gofio mai hwy fydd a'r cyfrifoldeb yn y dyfodol i sicrhau y bydd dathlu eto yn Nihewyd ymhen can mlynedd!
Mae aelodau'r pwyllgor yn dymuno cydnabod y cyfraniad a gafwyd oddi wrth Gyngor Cymuned Llanfihangel Ystrad tuag at y gost o gynhyrchu'r llyfr.
Ar ddiwrnod y dathlu cynhaliwyd gwasanaeth arbennig yn y capel o dan lywyddiaeth Eluned Davies gydag Ann Owen wrth yr organ. Roedd y rhannau arweiniol yng ngofal plant yr Ysgol Sul, Stephanie Harrand, Lleucu Ifans, Carys Evans, Jessica Lloyd¬ Edge, Brennig Ifans, Cara Rowcliffe, Gwenan Owen, Gwawr Harries, a Cerys Jones.
Cafwyd anerchiadau i gyfarch y capel gan Y Parchg. T Howell Mudd, Rhydaman (cyn-weinidog); Mrs. Mena MacLaughlan, Brynamman (gweddw'r Parchg. John MacLaughlan - cvn-weinidog); Mr. Gwyndaf Morgan (ar ran Capel Seion, Cilcennin - chwaer Eglwys) a'r Parchg. Eileen Davies, (ficer y plwyf).
Cyflwynodd y Parchg. T.H. Mudd gopiau o'r Caneuon Ffydd i blant yr Ysgol Sul i nodi'r achlysur.
Wedi'r gwasanaeth roedd te wedi ei ddarparu yn y festri i bawb. Torrwyd cacen y ddathlu gan Glesni Ifans yn absenoldeb ei mam, Mrs. Elizabeth Jones, Penfoel un o aelodau hÅ·n y capel, oedd wedi methu bod yn bresennol oherwydd damwain.
Danfonwn ein cofion ati yn yr ysbyty gan ddymuno llwyr wellhad iddi. I gloi'r dathliadau, cynhaliwyd Cymanfa Ganu am 7 o'r gloch o dan lywyddiaeth Ann Evans gyda Hilary McConnell wrth yr organ. Llywydd y nos oedd Mrs. Beti Jones, (gynt Treberfedd) a chafwyd ganddi anerchiad oedd yn dwyn i gof ei dyddiau hithau pan oedd hi'n blentyn yn yr Ysgol Sul, yn aelod ac organyddes y capel. Cyflwynwyd yr emynau gan ieuenctid y capel ac roedd y canu o dan arweiniad Beti Davies.