Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Clawr 'Y Gemydd', gan Caryl Lewis Caryl Lewis yn lansio nofel
Mai 2007
Lansiwyd nofel ddiweddaraf Caryl Lewis, Y Gemydd ar nos Iau, Ebrill y 5ed yn Oriel Siop Rhiannon, Tregaron. Daeth Caryl i'r lansio i lofnodi llyfrau.
  • Alun Jones yn holi Caryl Lewis
  • Adolygiad 'Y Gemydd'

    Wedi llwyddiant ei nofel ddiwethaf, Martha Jac a Sianco, a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2005, mae Caryl wedi gosod y bar yn uchel iawn iddi hi ei hun ar gyfer ei thrydedd nofel, Y Gemydd. Stori yw hi am gymeriadau brith sy'n byw ar gyrion cymdeithas, a'r prif gymeriad Mair sy'n crafu byw wrth drin a gwerthu gemau a chlirio tai, nes y daw un em i drawsnewid ei bywyd yn llwyr.

    Meddai golygydd y nofel, Alun Jones o'r Lolfa:

    "Mae hon yn nofel sy'n llawn symboliaeth, sy'n gweithio ar sawl lefel ac yn rymus dros ben. Mae gan Caryl ddawn arbennig wrth greu cymeriadau dwys, diddorol a'i gosod o fewn lleoliad credadwy.

    "Ochr yn ochr â'i dawn dweud, mae'r defnydd o dafodiaith Ceredigion a'r holl waith ymchwil sy'n mynd i mewn i'w gwaith yn cynnig nofel aeddfed, grefftus i unrhyw ddarllenwr ei mwynhau."

    Meddai Caryl:

    "Mae gan y pethau 'ma eu bywydau eu hun, 'yn does e? Roeddwn i'n hapus iawn fod rhai pobi wedi mwynhau Martha Jac a Sianco wrth gwrs, ond mae'r nofel yma'n gofyn gofyn llawer iawn mwy oddi wrth y darllenydd. Tydi hi ddim mor hawdd i'w deall, gan nad ydw i'n rhoi cymaint o wybodaeth am Mair ar ddechrau'r nofel. Bydd yn rhaid i'r darllenwyr felly ddarllen cyfran helaeth o'r nofel cyn sylweddoli beth sy'n mynd i ddigwydd i Mair a beth sydd wedi digwydd iddi.

    "Dyw Y Gemydd ddim yn nofel i'w darllen yn gyflym, ddim yn llyfr i ruthro trwyddo. Cyfrol yw hi i'w darllen yn eich pwysau bron, er mwyn i'r cymeriadau ddweud wrth y darllenydd pryd maen nhw wedi gorffen 'da nhw "

    Y Gemydd
    Y Lolfa
    £7.95

  • Alun Jones yn holi Caryl Lewis
  • Adolygiad 'Y Gemydd'
  • Gwefan Aberaeron

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý