CFfl Mydroilyn oedd yn cynnal Rali'r mudiad eleni ar gaeau ferm Gafryw ym Mydroilyn. Er nad oedd yr haul yn tywynnu ar y 6ed o Fehefin cafwyd cystadlu brwd a Ilawer o hwyl.
Llongyfarchiadau mawr i glwb Llanddeiniol ar ddod yn fuddugol ac i glwb Penparc ar ddod yn ail. Dyma weddill y canlyniadau:¬
Gosod Blodau-Tregaron
Coginio - Liangeitho
Crefft - Pennant
Cystadlaethau'r Aelodau -Pennant
Arddangosfa Ffederasiwn - Penparc
Sioe Bypedau - Bryngwyn Coedwigaeth - Pontsian Mae Gan CFfl Dalent - Dihewyd
Generation Game -
Bro'r Dderi
Bonesig a'i Chi - Talybont
Meimio-Caerwedros
Barnu Gwartheg Charolais -Talybont
Barnu Defaid Lleyn-Trisant
Cystadleuaeth Gwisgo i Fyny - Dihewyd
Cneifio-Tregaron
Barnu Cobiau Cymreig Adran D -Trisant
Dawnsio - Pontsian Syrcas - Caerwedros
Tablo-Talybont
Un o uchafbwyntiau'r dydd oedd Seremoni'rCoroni. Brenhines y Sir am y flwyddyn sydd i ddod yw Manon Richards o glwb Llanwenog. Ei morwynion yw Mererid Jones (Felinfach), Einir Ryder (Pontsian), Hedydd Davies (Bro'r Dderi) ac Eleri James (Talybont). Ffermwr Ifanc y Flwyddyn yw Emyr Evans o glwb Felinfach.
Dymuniadau gorau iddyn nhw am y flwyddyn sydd i ddod.
Ar y nos Sul yn dilyn y Rali cynhaliwyd Cymanfa'r Rali yng Nghapel Mydroilyn, gyda Heledd Williams ac Elin Mairyn arwain. Cafwyd eitemau gan Ceirios ac aelodau clwb Mydroilyn. Braf oedd gweld y capel dan ei sang a diolch i bawb a gefnogodd y noson honno ac a gefnogodd y Rali mewn unrhywfodd.
|