Gyda chaniatâd caredig Mrs. Davies a Rhydian, fferm Ty Newydd Brynog oedd y man cyfarfod, ond deallaf nad oedd Rhydian wedi atgoffa Kay o'r dyddiad a chafodd eithaf fraw pan ddychwelodd ddiwedd y prynhawn i weld 22 o geir wedi ei parcio ar y clôs! 'Roeddwn innau hefyd wedi cael eithaf syndod i gael 40 o aelodau wedi troi lan o gyn belled â'r Drenewydd, Hwlffordd a Phontardawe ond gyda rhagolygon y tywydd yn dda 'roedd pawb yn edrych ymlaen am ddiwrnod dymunol.
Wrth gyflwyno'r ardal soniodd Ieuan am darddiad Brynog sef Brainog, neu fryn y brain a nodwyd gyntaf yn nogfennau LlanllÅ·r yn 1667 gyda theulu Lloyd yn denantiaid. Daeth yn eiddo Vaughans Trawscoed yn 1769 ac erbyn 1873 'roedd yn ystad o 3,500 erw pan ei torrwyd i fyny gyda theulu'r Davies's yn prynu'r Plasdy a fferm TÅ· Newydd.
Anelwyd am Tychrug trwy gerdded i fyny gyda Nant Bwlch y Wernen a charped o eirlysiau ger glan yr afon yn disgleirio yn haul y bore, golygfa i godi gobeithion am y gwanwyn. Penderfynodd un o gŵn labrador Ty Newydd y byddai'n braf cael cwmni gan ein harwain y rhan fwyaf o'r ffordd.
Ychydig uwch Gwrthwynt Isaf, ar ôl cerdded drwy'r pwdel, gorffwyswyd i weld y rhan hyn o ddyffryn Aeron ar ei orau a dangoswyd allan adeiladau fel y Ffatrioedd a Theatr Felin-fach.
Ar dir Gwrthwynt Uchaf trist oedd gweld gweddillion aradr ceffyl yn cael ei orchuddio gan y llysdyfiant a rhwdu'n araf. Ychydig yn uwch ar hyd y llwybr croeswyd i mewn i dir y Comisiwn Coedwigaeth ac yna ymlaen i'r copa gyda'i thair carp o oes yr efydd.
Braf oedd cael edrych i bob cyfeiriad gyda'r coed wedi eu torri i lawr a gweld cylch mynyddoedd Cambria a'r môr. Ar ôl gadael y goedwig i gyfeiriad Castell Cilcennin, yr hen gaer o oes yr haearn, arhoswyd ym môn y clawdd i gael cinio.
Ymlaen heibio Pen Graig Fach, Blaenberllan a Charnau ar hyd yr hen lôn werdd ond troi i lawr cyn cyrraedd Ty Mawr ac anelu am lawr dyffryn Aeron. Dilyn y llwybr drwy'r goedwig yn ôl yr holl ffordd i Dy Newydd ac ar y ffordd dangos ffwng 'cacennau'r brenin Alfred' yn tyfu ar frigau onnen oedd wedi marw. 'Roedd pawb wedi mwynhau diwrnod pleserus yng nghyffiniau dyffryn Aeron.
Mwy o deithiau cerdded yn yr ardal
|