Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Llais Aeron
Elizabeth Evans Diolch, Mrs Evans
Mawrth 2004
Y Deyrnged Angladdol. (Dydd Mawrth, Chwefror 3,2004)

Ro'n ni'n gwybod yn iawn nad oedd yr amser yn bell i ffwrdd.

Roedd yr arwyddion yn ddigon amlwg dros fisoedd y gaeaf. A phan aeth i'r ysbyty ar ddechrau'r flwyddyn fe ddylem fod wedi ymbaratoi. Ond pan ddaeth y newyddion, ar ddydd Mercher olaf mis yr oerfel a'r barrug, syfrdanwyd bro gyfan.

Am beidio a wynebu realiti; am wrthod dderbyn yr hyn oedd yn anochel: roedd bai arnom. Ond roedd llawn gymaint o fai arni hi hefyd. Am ei bod mor wydn o gorff ac ysbryd. Mor gyson ei hymdrech a'i hymroddiad. Mor ddiwyd. Mor fyw. Ac am ei bod mor benderfynol a mor holl-bresennol roeddem ninnau'n caniatáu ein hunain i gredu mai felly fyddai pethau, yn oes-oesoedd, a-men.

Does dim dewis 'da ni bellach. Mae egni'r corff wedi diffodd. Gweddillion yn unig sydd ar ôl. Rhaid yw wynebu realiti'r dydd a her y dyfodol.

Fedrwn ni ddim edrych yn ystyriol tua'r dyfodol, wrth gwrs, heb yn gyntaf i ni adnabod a chydnabod y gorffennol. O edrych yn ôl felly pa air, tybed, sydd yn disgrifio bywyd a gwasanaeth Elizabeth Evans orau? Yng ngogledd y sir y gair a arddelir gan gynulleidfaoedd yr Hen Gorff am weinidog yw bugail. Yn Sicr, o ran ei gofal a'i harweiniad arnom ni, praidd fechan eglwys Troed-y-rhiw, mae'r gair bugail yn ddisgrifiad cwbl addas. Fel Trysorydd, Ysgrifennydd ac Athrawes Ysgol Sul roedd ei bugeiliaeth yn fanwl ac yn hir-gyson, a'i harweinyddiaeth ('mae'r bugail da yn arwain ei ddefaid' yn ôl y Testament Newydd) yn glir ac yn ddiysgog.

Ond er mor briodol yw meddwl amdani fel 'bugail' dyw e ddim yn ddigonol chwaith. Beth am ei gwybodaeth eang, gwyddoniadurol braidd, am bob pwnc dan haul? Tybed a themtiwyd hi rywbryd i ymddangos ar y rhaglen gwis Mastermind? Heb os, mi fyddai wedi ennill sgôr digon parchus yn y rownd Gwybodaeth Gyffredinol. Roedd ei darllen eang ym meysydd llenyddiaeth, daearyddiaeth, diwinyddiaeth, hanes a byd natur yn fwy na digon i sicrhau hynny. Ond yn rownd y Pwnc Arbenigol mi fydde wedi disgleirio. A thestun y rownd honno? Wel, Achau Teuluoedd Dihewyd a Chribyn wrth gwrs. Mae darganfod a deall un 'Family Tree' yn ddigon o gamp i'r rhan fwyaf ohonom. Ond roedd Misus Evans yn deall coedwig gyfan ohonyn nhw. Ac yn gallu neidio fel wiwer o un i'r llall, gan adnabod perthynas yr holl ganghennau â'i gilydd.

Mae'r enw Mastermind yn briodol, felly. Ond nid yw'n holl-gynhwysol. Un o'r pethau mwyaf diddorol am Misus Evans oedd y ffaith ei bod yn cyfuno diddordeb ysol yn ei bro a'i chynefin ag ysfa egniol i brofi a dysgu am y byd cyfan. Yn fy mlynyddoedd cynnar yn Theatr Felin-fach roeddwn yn ddigon naïf i feddwl mai pobol blwyfol, o'u hanian, ydoedd hen bobol. Drylliwyd y myth peryglus hwn gan Misus Evans (a chymorth Misus Huws Cwmerc, gynt) a fyddai'n dod atat, ar ddiwedd cyfarfod Hwyl a Hamdden yn aml gan ddweud:

Sori. Fyddwn ni ddim yma ddydd Mercher nesa. Ry' ni'n mynd at drip. 'Na neis' fyddwn i'n meddwl i'n hunan. 'Ma' nhw'n myth i Dyddewi, neu'r Bermo neu rywle bach felna'. Doeddwn i fyth yn barod ar gyfer yr ateb go iawn, sef Budapest, neu Istanbwl, Jeriwsalem, Rhufain neu Foscow; rhywle hynod egsotig ac, yn aml iawn, tipyn bach yn beryglus! Yn wir, gymaint oedd y trafaelu nôl a mlaen - ar draws ffiniau iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth - nes o'n i wedi mynd i led gredu eu bod yn rhyw fath a ysbiwyr; double-agents, hyd-yn-oed!

Ond doedd dim angen i mi boeni. Oherwydd fyddai'r un double-agent wedi buddsoddi gymaint o egni na brwdfrydedd yn ei bro fabwysiedig ac y gwnaeth Misus Evans. Gan gofio mai at lethrau'r Mynydd Bach yr oedd ei gwreiddiau, wrth ymsefydlu yn Nyffryn Aeron fe ddaeth i nabod nid yn unig ein hachau, ond ein hanes hefyd. Mae'n briodol i ni nodi yn y fan hon gwir arwyddocâd y tadogiad Hanesydd Bro. Mae'r Hanesydd Clasurol - yr hanesydd proffesiynol - yn gwybod ei ffordd o gwmpas silffoedd astrus y Llyfrgell Genedlaethol. Mae'r Hanesydd Bro nid yn unig yn gyfarwydd â'r llyfrgell honno mae e hefyd yn nabod ei ffordd o gwmpas coridorau llyfrgell arall: Llyfrgell Cof Gwald - y drysorfa anferth honno sydd yn agored i bob yr un ohonom; y llyfrgell ry'n ni'n ei chymryd yn ganiataol - nes y daw hi'n ddiwrnod angladd, a'r sylweddoliad fod drws arall wedi cau.

Prin fu'n adnabyddiaeth o Misus Evans yn ei phriod waith. Dim ond rhyw unwaith neu ddwy y gwelais hi yn rhinwedd ei swydd fel Prif Athrawes Ysgol Gartheli. Ond, â chymorth pryfoco cyson y diweddar Evan John Davies arni parthed ei meistrolaeth at y dechneg o gomopo plant drygionus yn Ysgol Dihewyd, ro'n i wedi gweld eithaf digon i sylweddoli ei bod yn athrawes wrth reddf. Roedd hi'n meddu ar awdurdod; ar wybodaeth; y ddawn o rannu ac o dderbyn (proses ddwyffordd yw dysgu, wedi'r cyfan.) Ond, yn bwysicach fyth, roedd hi'n caru plant; yn caru bod yn eu cwmni. Ac roedd hwythau, fel cenedlaethau o blant Ysgol Sul Troed-y-rhiw, yn caru bod yn ei chwmni hithau hefyd.

Ro'n i wedi gweld digon hefyd i sylweddoli, wrth iddi ymddeol ar ddiwedd y saithdegau, mai ymddeol o'r ysgol wnaeth hi'n unig. Roedd hi, ac mi fuodd hi hyd y dwthwn olaf oll, yn dal yn Brif Athrawes: Prif Athrawes Dyffryn Aeron. Ac yn ei hysgol agored, boed yn stafell ddosbarth yn Festri Troed-y-rhiw, llwyfan Eisteddfod Felin-fach, lolfa'r Theatr, neu gegin Wernllwyn neu Bantygwiail, Temple Bar, roedd ystod y dysgu yn ehangach o lawer na rhychwant y cwricwlwm cenedlaethol. Yn ei hysgol gydol-oes roedd hi'n dal i'n dysgu am ddaearyddiaeth, hanes, byd natur, crefyddol, laith a llenyddiaeth - yn lleol; yn sirol; yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Ac nid dysgu-o-bell oedd ei thechneg ond dysgu yn ei plith; dysgu i fyw ein llygaid; a hynny yn null yr hen brifathrawon, yn naturiol gynhwysol (neu 'trawsbynciol' yn laith y byd addysg cyfoes).

Ond, er mor effeithiol ei dulliau a'i moddau addysgu nid dyma'r rhinweddau a'i gorseddai yn Brif Athrawes. Beth sydd yn gwneud y gwahaniaeth rhwng athro a Phrif Athro? Yr ateb yw: cyfrifoldeb. Dyna a sicrhaodd i Misus Evans y swydd answyddogol o fod yn Brif Athrawes arnom oll. Ar ran Llais Aeron, Eisteddfod.

Felin-fach, Cymdeithas yr Henoed, Eglwys Troed-y-rhiw, ac wrth ddysgu Cymraeg i fewnfudwyr roedd hi'n cario baich arswydus cyfrifoldeb. Pedair awr ar hugain y dydd. Saith niwrnod yr wythnos.

Mae 'na lawer o agweddau diflas i'r argyfwng ysbrydol a chymdeithasol sydd yn bygwth y broydd hyn ar ddechrau'r mileniwm newydd. Ond y perygl mwyaf yw di-frawder; yw syllu'n hurt o'n cwmpas gan ysgwyd ein pennau'n fud ynteu ddisgwyl i rywun arall - rhyw 'nhw', draw fyn'na - i wneud rhywbeth tra bod ni'n hunain yn gwneud dim. Osgoi cyfrifoldeb yw ymateb felly. Os y'n ni o ddifri ynglŷn â thalu teyrnged, teyrnged i un a roddodd gymaint o'i hegni, dros gymaint o flynyddoedd, mae angen i ni addunedu, ar drothwy gwanwyn 2004, ein bod yn dilyn ei hesiampl drwy dderbyn y cyfrifoldeb am ddyfodol ein ffydd a'n ffordd a fyw (mae'r naill ymhlyg yn y llall) a gweithredu'n hunain. Bob yr un ohonom. Ac os y'n ni o'r farn ein bod yn gwneud eithaf digon yn barod; nad oes le yn ein hamserlen i dderbyn rhagor o gyfrifoldeb, yna mae'n bryd i ni ail- archwilio'n blaenoriaethau, gan sicrhau ein bod yn sianelu'n heginodd i'r mannau hynny sydd o bwys i'r gymuned gyfan, ac nid i'n dibenion personol yn unig. Dyna'r her. Ac nid fi sy'n ei gosod ond Misus Evans; ein Bugail; ein Hanesydd; ein Prif Athrawes.

Mae'r bwlch ar ei hôl yn un enfawr. Mae'r her yr un mor arswydus. Mae hi hefyd yn gyffrous. Dyna pam dwi am orffen wrth ddiolch iddi. Ac rwy'n teimlo'n wylaidd iawn wrth wneud hynny, oherwydd os bu rhywun yn y byd yma a oedd wedi datblygu'r arfer gymdeithasol dda o ddiolch yn gelfyddyd gain Misus Evans oedd honno. Ni fyddai dim o bwys yn digwydd yn Nyffryn Aeron heb fod Misus Evans yn sicrhau bod y sawl a fu'n gyfrifol yn derbyn ei gwerthfawrogiad - ar ran y gymuned yn gyffredinol yn ogystal a hi ei hunan.

Ein tro ni yw hi nawr. Ein cyfle olaf. Felly: Misus Evans - Elizabeth - o waelod calon bro gyfan: diolch.

Euros Lewis


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý