Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Disgyblion Ysgol Trefriw wedi gwisgo fel faciwîs Elusendai Llanrwst
Rhagfyr 2008
I gyd fynd â Sul y Cofio eleni, fe drefnwyd arddangosfa yn Elusendai Llanrwst.

Daeth yr ysbrydoliaeth i drefnu hyn yn ôl yn 2007 pan gyflwynodd Mrs Helen Morris gardiau post yn dyddio o'r Rhyfel Byd Cyntaf i'r elusendai.

Roedd y cardiau wedi eu hanfon i daid a nain Mrs Morris gan ei thad yn ystod y rhyfel.

Cafodd gwasanaeth ei thad fel milwr ei gydnabod yn ystod y rhyfel a'i enwi yn y London Gazette. Roedd y cardiau wedi eu harwyddo gan 'Bob' a'u hanfon i'w fam, Mrs David Jones, 13 Bridge Street, Llanrwst.

Roedd cardiau wedi eu hanfod i dad Bob, oedd yn filfeddyg yn Llanrwst ar y pryd, a hefyd i'w chwaer, Miss Hannah Jones.

Ar ôl derbyn y cardiau aeth staff yr elusendai ati i geisio darganfod mwy o hanes milwyr eraill o Lanrwst yn ystod y cyfnod.

Defnyddiwyd Archifdy Conwy fel ffynhonnell a threuliwyd oriau yn darllen drwy bapurau newydd 1914-1918.

Nid yw'r gwaith wedi ei orffen eto - byddant yn ychwanegu at yr arddangosfa'n flynyddol drwy gynnwys mwy o lythyrau a ysgrifennwyd gan filwyr lleol o faes y gad.

Mae gwaith wedi ei wneud hefyd drwy recordio hanesion pobl leol o'r Ail Ryfel Byd; ar hyn o bryd maent i'w gweld ar ffurf fideo ond mae cynllun ar y gweill i'w cofnodi mewn llyfr yn y dyfodol.

Mae staff yr elusendai yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi rhoi benthyg pob math o bethau iddynt ar gyfer yr arddangosfa - maent yn bwriadu gwneud defnydd pellach ohonynt er mwyn ehangu beth fydd yna i ymwelwyr fwynhau.

Un agwedd gyffrous o'r arddangosfa yw'r ymweliadau gan ddisgyblion yr ysgolion lleol.

Roedd dros 200 wedi cael y cyfle i brofi bywyd yr Ail Ryfel Byd drwy weld ystafell o'r cyfnod a chael eu gwisgo fel faciwîs.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý