Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Dilwyn Price Mae'r Eisteddfod yma!
Mai 2008
Mae fferm Gloddaeth lsaf yn lleoliad ardderchog i gyffro a chynnwrf gŵyl ieuenctid fwyaf Ewrop.
Cyfarchion cadeirydd y pwyllgor gwaith, Dilwyn Price
Ers y penderfyniad i wahodd Eisteddfod Genedlaethol Yr Urdd i Gonwy yn ôl ym mis lonawr 2006 rydym wedi bod yn aros yn eiddgar am y diwrnod pan gawn groesawu'r garafan gyntaf, y cystadleuydd cyntaf a'r ymwelydd cyntaf.

Trefnodd y pwyllgorau lleol lu o weithgareddau codi arian wrth iddynt ymdrechu i gyfarfod a tharged sir heriol o £230,000. Trwy eich ymdrechion a'ch haelioni rwy'n hynod falch o'ch hysbysu ein bod eisoes wedi codi £200,000 ac mae nifer o bwyllgorau'n parhau i drefnu gweithgareddau.

Braint ac anrhydedd yw cael bod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf cawsom fwynhau cyngherddau rhagorol, cawsom fwyta'n siâr o gacennau blasus ac yfed litrau dirifedi o goffi. Buom yn cerdded sawl milltir noddedig a chwarae sawl gem bingo. Cawsom fynychu sawl cinio cyhoeddus a phrydau arbennig, a chyfarfod lIu o bobl oedd yn ysu i brynu ticed raffl gennym!

Diolch i chi oll am eich cefnogaeth yn ystod y cyfnod sy'n arwain tuag at yr Eisteddfod. Diolch i'r rhai hynny a wirfoddolodd i stiwardio yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ac i'r holl athrawon a'r tiwtoriaid sydd wedi gweithio mor galed gyda'r plant a'r bobl ifanc fydd yn cynrychioli Conwy.

Pob lwc i'n cystadleuwyr i gyd. Gobeithio y cewch flasu llwyddiant.

I bawb arall - dewch da chi i brofi chwe diwrnod o gystadlu brwd. Dewch i brofi gwefr y cyngherddau nos sy'n ddathliad o amryfal dalentau plant a phobl ifanc Conwy. Mae gwledd o adloniant yn eich aros - y gorau y gall Cymru ei gynnig - a hynny o fewn cyrraedd hwylus.

Rydym hyd yn oed wedi llwyddo i drefnu tywydd hyfryd i wneud eich ymweliad yn fythgofiadwy.

Gallaf eich sicrhau na fydd unrhyw un yn swnian arnoch i brynu tocynnau raffl am amser maith , o leiaf hyd nes y gwahoddir yr Eisteddfod yn ôl i Gonwy y tro nesaf!!!

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý