Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Rhai o'r plant hefo'r capsiwl Capsiwl amser
Medi 2009
Mae disgyblion o ysgolion yng Nghyffordd Llandudno a Llandudno yn cael cyfle i adael negeseuon i'r dyfodol trwy roi pethau mewn capsiwl amser i'w gladdu ar safle adeilad newydd Llywodraeth y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno.

Daeth disgyblion o Ysgol Nant y Coed, Ysgol Maelgwn, Ysgol Aberconwy ac Ysgol y Creuddyn i Ganolfan Ymwelwyr Llywodraeth y Cynulliad gerllaw'r safle i weld y capsiwl ac i feddwl am bethau i'w rhoi ynddo.

Bydd y plant nawr yn mynd yn ôl i'w hysgolion i benderfynu ar yr union bethau y maen nhw am eu cynnwys.

Ymhlith syniadau'r disgyblion yn ystod eu hymweliad oedd cyfweliad a chyn-weithwyr Hotpoint, bwydlen cinio ysgol, llyfr lloffion a gwisg ysgol.

. Bydd y capsiwl amser yn cael ei gladdu yn nerbynfa'r adeilad newydd ar ddiwedd y flwyddyn, ac ni fydd yn cael ei agor eto am 50 mlynedd.

Meddai Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan: "Bydd swyddfeydd newydd Llywodraeth y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno yn ased gwirioneddol i bobl y Gogledd. Dyna pam mai plant yr ysgolion lleol sy'n cael penderfynu beth ddylai gael ei roi yn y capsiwl amser, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed eu syniadau.

"Mae'n 10 mlynedd ers datganoli ac felly bydd 60 mlynedd o ddatganoli wedi mynd heibio cyn y bydd y capsiwl hwn yn cael ei agor.

Ni allwn ni ond dychmygu pa newidiadau fydd wedi digwydd erbyn hynny, ond yn y cyfamser, mae adeiladu swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno yn arwydd heddiw o ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i Ogledd Cymru."

Meddai Jonathan Pochin, rheolwr gyfarwyddwr Pochin Construction: "Yn ystod y gwaith o godi'r adeilad hwn rydyn ni wedi trefnu ymweliadau a'r safle ac wedi siarad mewn ysgolion i ennyn diddordeb disgyblion yr ardal yn y datblygiad. Dyma gam arall ymlaen i gael y plant i ymddiddori yn y datblygiad - rwy'n gobeithio'n fawr y bydda i'n dal yma ymhen 50 mlynedd i weld y capsiwl yn cael ei godi unwaith eto!"

Mae'r capsiwl amser i'w weld ar hyn o bryd yn y Ganolfan Ymwelwyr, 2 Narrow Lane, Cyffordd Llandudno.

Hefyd yn y Ganolfan, mae model ac animeiddiad o'r adeilad newydd, yn ogystal ag arddangosfeydd sy'n rhoi gwybodaeth am y prosiect.

Mae'r Ganolfan ar agor rhwng 10 am a 4pm ar ddiwrnodau gwaith.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý