Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Tynnwyd y llun yma yn 1950, ac mae'n dangos y disgyblion ar gychwyn ar daith, wedi ei threfnu gan y Cynghorydd Hugh Owen (a welir ar y chwith) mewn bws o amgylch y Gogarth Fawr.Yn sefyll wrth ddrws y bws mae Miss Mari Wynn Meredith, prifathrawes yr ysgol. Addysg Gymraeg Cynradd yn Llandudno - o 1949
Ebrill 2003
Atgofion Mari Roberts
(1949-1967)

Yn dilyn apwyntiad Miss Mari Wynn Meredith i ofal yr ysgol, dychwelodd Miss Roberts i'w chyn swydd yn Ysgol Lloyd Street, tra pharhaodd Miss Nans Williams fel athrawes gynorthwyol am rai blynyddoedd.

Yn allanol ac oddi mewn, cartref cwbl ddi-addurn oedd y cytiau Nissen. O'u plaid, gellid dweud eu bod yn ddigon helaeth i'w rhannu'n bedair ystafell ddosbarth, neuadd a chegin, ynghyd ag ystafell fechan i'r athrawon. Cyn pen 'chydig amser gwelwyd trawsnewid y parwydydd sinc llwyd gyda llawnder o luniau a siartiau lliwgar, bywiog, a'r iaith Gymraeg yn fwrlwm arnynt, yn denu llygad plentyn.

Clywid mwy a mwy o 'swn yr iaith' ar wefusau'r plant mewn awyrgylch hapus. Yn ddi-oed gwelwyd lliwiau coch, gwyn a gwyrdd yr Urdd yn bywiogi'r Neuadd. Buan y daeth amser pan welid tystysgrifau llwydda bri Eisteddfodau'r Urdd a'r Genedlaethol yn ennill lle ar yr hysbysfyrddau, gyda llwyddiannau'r Band Taro a'r Parti Cerdd Dantyn amlwg.

Prin iawn y medrid dweud fod y buarth chwarae tywodlyd yn gymwys,ond bu'n fodd i feithrin camp a hwyl chwaraeon, gyda'r Gymraeg arenau'r disgyblion. Gyda chynnydd cyson yn rhifau'r plant, daeth amser y medrid cael tim pêl-rwyd a thim pêl-droed.

Bu gweithgarwch hawddgar Miss Mari Wynn Meredith a'i chyd-athrawon yn fodd i ennill cynnydd cyson ar waetha'r llifeiriant Seisnigyn y dreflan. Profodd cefnogaeth parod Mr Mansel Williams, Y Cyfarwyddwr Addysg, yn arbennig werthfawr. Ar ei ymweliadau mynych â'r ysgol, deuai ag addysgwyr o wledydd tramor gydag ef i weld dulliau addysgu dwy-ieithedd. Byddai Miss Jennie Thomas,Ymgynghorydd laith y Sir, hithau, hefyd yn tywys tramorwyr ar yr un ymchwil, yn ogystal ag i ennyn diddordeb y plant yng ngwledydd y byd a'u pobloedd.


Prin iawn yn y cyfnod hwn oedd yr arian ar gyfer adnoddau ysgol, boed lyfrau, dodrefn neu offer. I Bwyllgor Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn 1949 y bu'r diolch am roddion hael o elw'r Wyl tuag at brynu celfi ac angenrheidiau pob dydd. O'r un ffynhonnell y daeth yr arian i brynu'r delyn sy'n dal i gael ei defnyddio yn yr ysgol.

Cafwyd £100 o goffrau'r Sir i brynu piano. O'r un coffrau y cafwyd arian i brynu ffrâm ddringo fawr ei chyfraniad at weithgareddau ymarfer corff mewn ysgol mor llwm ei hadnoddau. Cofir hefyd am Gymdeithas Rieni heb ei hail. Ni fu diwedd ar yr haelioni a'r gefnogaeth gaed o'r cyfeiriad hwn.

Diolch am y cytiau Nissen er eu diffygion. Ym misoedd y gaeaf roedd tanau glo i'w gwresogi a gofalwr i sicrhau cyflenwad o danwydd am y dydd. Ond problem anodd oedd ceisio atal a chau'r agennau a ymddangosai'n gynyddol yn y parwydydd a'r to. Nid oedd modd cadw Morus y Gwynt ac lfan y Glaw rhag amharu ar iechyd, gwersi achysur y plant a'r athrawon. Roedd swn cawod drom ar y to yn fyddarol

Pa ryfedd i barti cyd-adrodd un Eisteddfod gael hwyl arbennig arAdrodd
'Mae Darbi yn y stabal, Ar hwyaid bach dan glo,
Yn clywed y glaw yn pitran-patran, Ar ben y to.'

  • Atgofion Nans Williams Owen

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý