Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Y Cyrff Roc a Rôl Conwy 08
Ionawr 2008
O'r 26 i 31 o Fai, 2008, bydd gŵyl genedlaethol wythnos o hyd yn dod i Fferm Gloddaeth Isaf, Bae Penrhyn, ger Llandudno.

Bydd Urdd Gobaith Cymru, mudiad ieuenctid mwyaf Ewrop, yn dod a'r Eisteddfod Genedlaethol i sir Conwy flwyddyn nesaf.

Wrth ymbaratoi at y digwyddiad, mae bwrlwm o weithgareddau yn codi stem ar draws y sir, wrth i blant, pobl ifanc, oedolion a phobl hÅ·n ymuno yn yr hwyl i godi arian i gynnal a chroesawu'r digwyddiad cenedlaethol unigryw hwn.

Mae un athro brwdfrydig, Derfel Thomas, 29, o Fochdre, Bae Colwyn, wedi bod yn hynod o brysur yn ystod y misoedd diwethaf. Mae Derfel, sy'n briod a chanddo fabi bach, wedi bod yn gweithio'n galed gyda bandiau Cymraeg i baratoi un albwm o'i fath, yn arbennig ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Conwy 2008.

"Mae gen i ddiddordeb mawr mewn bandiau Cymraeg a'r sin Gymraeg," eglura Derfel, sy'n dysgu plant cynradd yn Ysgol Tudno, Llandudno. "Daeth y syniad gwreiddiol i baratoi'r gryno ddisg arbennig ar gyfer y Steddfod gan y Pwyllgor Ieuenctid Lleol, dros flwyddyn yn ôl.

"Prif bwrpas y cynllun oedd codi proffil yr Eisteddfod, i sicrhau bod pobl yn ymwybodol bod y sir yn croesawu Steddfod yr Urdd flwyddyn nesaf, ac i roi cyfle i fandiau ifanc ar draws Cymru i weithio mewn stiwdio recordio broffesiynol.

"Mae Gwynfryn Cymunedol (label a chwmni recordio) wedi bod yn wych, ac mae artistiaid ifanc fel Catrin Haf o Lanfairfechan, Yr Annioddefol o Lanrwst a Labrinth o Ddyffryn Clwyd, i enwi dim ond rhai, wedi cael y cyfle i gydweithio arni wrth gynhyrchu'r CD," eglura Derfel.

Mae tri phrif drac o'r casgliad wedi eu recordio'n arbennig ar gyfer y CD. Un o'r rheiny yw Subbuteo gan Brigyn, a does dim recordiad arall o'r gan hon ar gael oni bai am yr un sydd ar y CD 'ROCON8'. Cymerwyd y teitl o'r gair roc a Conwy 08.

"Rydym wedi cael sylw gwych ar Â鶹Éç Radio Cymru yn ddiweddar, ac mae pawb yn holi lle mae modd prynu copi o'r gan Subbuteo gan Brigyn! Mae hi'n wych bod hogia Brigyn wedi cytuno i recordio hon yn arbennig ar ein cyfer ni!" eglura Derfel.

Mae'r trac enwog arall ar y CD yn cynnwys arddull Derfel ar gan sydd wedi hen ennill ei phlwyf, ac a ysgrifennwyd a recordiwyd gan fechgyn Llanrwst, Y Cyrff nol yn 1989, Cymru Lloegr a Llanrwst.

Yn ôl Mark Roberts o'r Cyrff: "Mae hi wedi bod yn grêt gallu cynnig rhywbeth yn ôl i sir ein mebyd, Conwy, ac i'n cartref annwyl, Llanrwst! Rydan ni gyd yn gobeithio y gwnaiff y CD yn dda i'r Urdd!"

Yn ymuno a Derfel fel lleisiau cefndir i'r trac y mae aelodau o bwyllgor ieuenctid yr Urdd, Lowri Wyn Pierce, Katie Catheral, Eleri Fflur Roberts, Hannah Elin Rowlands a Sara Eleri Wyn Williams, yn ogystal a'r artist poblogaidd Alistair James o Lanfairfechan.

Mae Alistair James hefyd wedi recordio trac yn arbennig ar gyfer y CD, Dim ond Chdi.

Mae'r gryno ddisg, ROCON8 ar gael o siop Bys a Bawd, Llanrwst, neu trwy'r post gan gysylltu a ifanderfel@hotmail.com. Cost y CD yw £10.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý