Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Lloyd Jones Cyflwyno tlws
Chwefror 2010
Y mae Lloyd Jones, sy'n frodor o Bryn Clochydd, Gwytherin gynt, ac sydd erbyn hyn wedi ymgartrefu yn Llanfairfechan, yn awdur sydd wedi profi llwyddiant ysgubol gyda'i ddwy nofel.

Hawliodd ei nofel gyntaf, 'Mr Vogel' ei lle ar restr fer Gwobr Bollinger a dyfarnwyd Gwobr McKitterrick 2005 iddi.

Sicrhaodd ei ail nofel, 'Mr Cassini', wobr Llyfr Y Flwyddyn 2007.

Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfrol o straeon byrion, 'My First Colouring Book' a'i nofel gyntaf yn y Gymraeg - 'Dwr'.

Yn ei hanfod hanes pererinion ar bererindod (criw brith) a ddadlennir yn 'Mr Vogel' ac yn 'Mr Cassini' darlunir ymgais i adfer plentyndod coll mewn byd rhyfeddol o eira, gwydr ac ôl troed yn y rhew.

'Roedd aelodau Dosbarth Nos Llangernyw yn awyddus i gydnabod ei gamp - ond pwy allai wneud cyfiawnder a'r comisiwn?

Doedd dim rhaid mynd tu hwnt i Fro Cernyw nag yn wir gam pellach na Bryn Clochydd cartref Lloyd Jones.

Mae gan Rhian ddawn creadigol a hi wnaeth y gwaith cwbl unigryw. Mae'r ffaith fod Rhian yn perthyn i'r awdur yn gyd-ddigwyddiad hyfryd.

Y tlws

Dyma sut y disgrifiai Rhian y tlws: "Nes i benderfynu ar ôl troed yn amlwg oherwydd ei fod yn cyfeirio at anturiaethau a theithiau Mr Vogel a hefyd Mr Casinni, ond hefyd roeddwn yn teimlo ei fod yn arwyddocâd o daith personol; o Fro Cernyw, o amgylch Cymru a thu hwnt, a hynny ar sawl lefel.

"Diolch i'r dosbarth nos yn Llangernyw am ofyn i mi greu y darn, mae o wedi bod yn bleser.

"Mae wedi ei wneud o wybr crisial plwm; drwy dechneg o gastio troed mewn clai, yna ei orchuddio mewn mould plastar, tynnu'r clai wedyn rhoi'r gwydr yn y gofod gwag a'i danio mewn odyn i fyny at 850.

Mae'r darn gorffenedig wedi cael ei bolishio mewn gwahanol ffyrdd."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý