Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Mike a Rosemary Gaches Ffarwelio â Mike a Rosemary Gaches
Hydref 2007
Yn ystod mis Medi gadawodd Rosemary a Mike Ddyffryn Conwy i ymsefydlu yn eu cartref newydd ar y gororau.
Daethant i fyw i Rowen ym 1994 o Bedfordshire ar y gororau. Hanai Rosemary o Nottingham a Mike o Croydon, Surrey.

Pan oeddynt yn byw ar y gororau daethant yn ymwybodol o'r iaith Gymraeg wrth fynd am dro a gweld enwau dieithr ar y ffermydd a deall mai enwau Cymraeg oeddynt.

Ymunodd Rosemary â dosbarth Cymraeg bryd hynny a phan benderfynodd y ddau ddod i Gymru i ymddeol aeth Mike ati hefyd i ddysgu'r iaith.

Felly pan ddaethant i Rowen roeddent yn medru Cymraeg - yn wahanol iawn i Saeson eraill a ddaeth i Rowen i fyw yn ystod y blynyddoedd!

Gan fod Rosemary yn arfer cymryd dosbarthiadau Cymraeg cyn dod i Ddyffryn Conwy roedd yn barod i gynnal dosbarthiadau dysgwyr pan ddaeth i fyw yma.

Mae dyled yr ardal yn fawr iddynt gan iddynt weithio'n ddiflino yn Nyffryn Conwy ac mae lIawer o ddysgwyr yn ddyledus iddynt.

Bu Mike yn Llywodraethwr yn Ysgol Rowen a rhoddodd lawer o'i amser i'r plant a'r ysgol.

Roedd y ddau yn aelodau gwerthfawr o Gymdeithas Treftadaeth Dyffryn Conwy gan weithredu ar y Pwyllgor.

Roeddynt hefyd yn aelodau ffyddlon o Gymdeithas Gruffydd ap Cynan, Conwy, a bu Mike yn Llywydd yn ei dro.

Bu Rosemary yn aelod ffyddlon o Gangen Eigiau o Ferched y Wawr a bu hithau hefyd yn Llywydd ac Ysgrifennydd y Gangen.

Bu Rosemary a Mike yn aelodau brwdfrydig o'r Clwb Garddio yn y pentref ac yr oedd gardd eu cartref yn Rowen yn dystiolaeth o hynny.

Gweithiodd Rosemary yn ddygn hefyd yng nghangen Rowen o Sefydliad y Merched.

Bydd colled fawr i'r Pentan ar ôl Mike.

Bu'n olygydd yn ei dro a byuddai yn gosod y papur a'i blygu bob mis yn ddi-ffael.

Bydd chwith i dîm y gosod yn festri Carmel ar ei ôl.

Bydd gennym lawer o atgofion melys am eu cyfnod yn ein plith ac un o'r uchafbwyntiau oedd gweld Mike yn dod i'r rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Ogwr.

Dymuniadau da iddynt yn y dyfodol yn eu hardal newydd, ein colled ni yn Nyffryn Conwty yw eu hennill hwy.


[an error occurred while processing this directive] 0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý