Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Gwaith Dolgarrog Gwaith Alwminiwm Dolgarrog
Rhagfyr 2007
1907 - 2007
Y tawelwch! Y tawelwch - dyna yw'r argraff fwyaf sydd yn taro rhywun wrth gerdded drwy bentref Dolgarrog erbyn hyn.
Mae hyn yn cael ei leisio gan nifer o bobl wrth iddynt sylweddoli fod yna rhywbeth yn "wahanol".

"Mae'r distawrwydd wedi gwneud argraff ar lawer," meddai Emma sy'n gweithio yn y siop ar draws y ffordd i'r ffatri. Mae rhai yn ei chael hi'n anodd i gysgu gan eu bad wedi arfer efo twrw rheolaidd y peiriannau yn y tywyllwch; eraill yn teimlo'n unig wrth fynd am dro i lawr y llwybr heibio'r ffatri gan nad oes yna sŵn mecanyddol y celfi na lleisiau gweithwyr i'w clywed - "anghysbell" oedd barn un wraig.

Dim ond nifer fach o staff sydd bellach ar y safle gyda chyfrifoldeb am gynnal a chadw, a iechyd a diogelwch.

Beth bynnag yw y farn wleidyddol a phersonol am beth sydd wedi digwydd, rhaid gobeithio am y gorau i'r rhai sydd yn heb waith o ganlyniad i hyn. Mae nifer ohonynt yn dod o deuluoedd lle mae cenedlaethau wedi cael eu cyflogi yn Nolgarrog a mae hwn yn ddiwedd cyfnod yn hanes y teulu.

Nid ar chwarae bach y mae dewis - neu hyd yn oed gael hyd - i yrfa newydd y dyddiau yma. Mae yna nifer fawr yn mynd i orfod pwyso a mesur i ba gyfeiriad i fynd a rhoi ystyriaeth efallai i orfod codi gwreiddiau a symud eu teuluoedd i ardal newydd. Mae'n sicr y bydd rhai yn medru syrthio'n ôl ar sgiliau trosglwyddiadwy y gallant eu cynnig mewn gweithle arall tra bydd eraill yn wynebu'r her o fynd drwy gyfnod o hyfforddiant er mwyn datblygu sgiliau eraill. Mae hyn yn wir am nifer fawr o weithwyr ar draws Cymru - mae gwrando ar y newyddion ar Radio Cymru yn gwneud i ni sylweddoli fod yna "Ddolgarrog" rhywle ym mhob cornel o'r wlad.

Mae'r goleuadau Nadolig yn disgleirio yn y goeden y tu allan i'r ffatri - fflam gobaith?


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý