Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Ysgol y Creuddyn yn perfformio 'Y Botel Anghofio' Hwyl yr Å´yl
Ebrill 2009
Nos Lun, Mawrth 16eg cynhaliwyd y seithfed ŵyl ar hugain yn neuadd ddinesig Conwy.

Ein tuedd fel pobl ganol oed a hyn yw edrych yn ôl a chofio'r 'dyddia da' pan oedd y neuadd yn orlawn am dair a phedair noson.

Gŵyl un noson gyda chynulleidfa a rhyw 70 o bobl oedd hi eleni.

Nid oedd hi'n ŵyl gystadleuol fel yn y gorffennol 'chwaith.

'Roedd tri chwmni yn perfformio, dau gwmni o Ysgol y Creuddyn ac un Cwmni o Theatr Fach, Llangefni.

Dyna i ni lond llwyfan o bobl ifanc. Wrth edrych ar y rhaglen gwelwn bod 33 o bobl ifanc yn perfformio, cyfarwyddo neu yn rheoli llwyfan.

Felly dyna anghofio am y gorffennol ac edrych ymlaen yn obeithiol i'r dyfodol efo'r ieuenctid.

Y Cwmni cyntaf i berfformio oedd Cwmni Creuddyn gyda'r ddrama 'Y Botel Anghofio' a ysgrifennwyd gan y cast eu hunain.

'Roedd hon yn ddrama bwerus yn trafod alcoholiaeth, a'r effaith a gafodd alcoholiaeth ar deulu ifanc.

'Roedd amryw o bynciau yn cael eu dadlennu yma arwahan i effaith y ddiod. Gwelwn y plant yn dioddef oherwydd cyflwr y tad, gwelwn yr effaith o yfed a gyrru ac o blant yn cael eu bwlio yn yr ysgol.

Ar y cyfan cafwyd actio da a theimlais ar adegau bod yr actio dwys yn deimladwy iawn.

Cysylltwyd y cyfan gyda cherddoriaeth addas. 'Roedd pob un yn portreadu ei gymeriad yn dda ond cafodd un sef Llio Wyn Morris y ferch hynaf, hwyl arbennig ar ei phortreadu.

Ar ôl y ddrama gyntaf cafwyd anerchiad y Llywydd sef Arwel Roberts, Prifathro Ysgol Nant y Coed. Cyfrannodd Arwel i fyd y ddrama yn y cylch gydag oedolion ac ieuenctid y Dyffryn.

Rhoddodd fraslun o'i hanes yn y dechrau efo'r ddrama yn Llandudno o dan arweiniad D R Jones, yna ei brofiadau efo Cwmni Drama Glan Conwy cyn iddo yntau gynhyrchu dramâu ei hun.

Neges Arwel i'r gynulleidfa oedd - daliwch i gefnogi'r Å´yl Ddrama er mwyn ieuenctid y dyfodol ac yr oedd yn obeithiol iawn o'r dyfodol o edrych ar raglen y noson.

Cwmni dieithr i Gonwy oedd yr ail gwmni sef Cwmni Cysgodion Theatr Fach, Llangefni yn perfformio 'Arkies' gan Caryl Lewis.

Aethpwyd a ni yn syth i fyd y gangiau yn y ddrama hon. Drama addas i griw ifanc y cynnwys dau ar hugain o gymeriadau.

Cafwyd portreadau o gangiau, arweinwyr y gang a'r fraint o gael eich derbyn i fod yn aelod ac arweinydd a'r dinistr a'r boen a all ddeillio o gwmni felly.

'Roedd cyd-actio da iawn yma eto ac yr oedd y grwpio'n dda, nid oedd hyn yn hawdd gyda chriw mor fawr ar y llwyfan.

'Roedd y fam yn gymeriad cryf ac arweinwyr y gang, Llwyddodd y ddrama i bortreadu bywyd y gang i'r dim.

Yn ystod yr ail egwyl cafwyd paned wedi ei pharatoi gan aelodau o Ferched y Wawr, Henryd. "Diolch am baned dda" oedd geiriau Hefin yr Arweinydd.

Daeth pawb yn ôl yn eiddgar i weld yr ail gwmni o Ysgol y Creuddyn yn perfformio 'Babi' a ysgrifennwyd gan y cwmni.

I mi yn y ddrama hon y cafwyd uchafbwynt yr actio. 'Roedd y ddrama yn delio a'r pwysau a roir ar fywyd pobl ifanc yn rhywiol ac yn emosiynol.

'Roedd cyd-chwarae yn arbennig o dda rhwng y dair actores a'r ddrama yn redeg yn llyfn o'r dechrau i'r diwedd.

Cafwyd y doniol a'r difrif yn hollol naturiol. Llongyfarchiadau iddynt ar eu sgript ac am ddelio a phwnc anodd mor ddeheuig.

Hefin Jones oedd yn arwain y noson. 'Roedd yntau yn gresynu na chafwyd mwy nag un noson o berfformio ond roedd yn diolch yn fawr i'r cwmnïau ifanc am eu gwaith ardderchog.

Diolchodd hefyd i'r pwyllgor a hogiau'r llwyfan am eu gwaith a diolchwyd yn arbennig i Iorwerth Roberts, Ysgrifennydd y Pwyllgor Drama am drefnu popeth.

Aeth pawb adref yn llawn gobaith gan fod dyfodol y ddrama yn nwylo'r pobl ifanc.

Hoffwn wneud apêl at y dyfodol. Beth am gefnogi'r ieuenctid trwy ddod i'w gweld a chefnogi'r Pentan hefyd gan mai'r Ŵyl yw yr unig weithgaredd cyhoeddus a gynhelir yn ystod y flwyddyn tuag at gynnal Y Pentan.

Laura Jones.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý