Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Y criw gyda'r bws Y Daith i'r Almaen
Mehefin 2008
Erbyn hyn, mae'r teithiau i ymweld â'r Almaen, ac ag Albert Jackson, gynt o Eglwys Bach a Hen Golwyn, yn digwydd yn rheolaidd.
Bu Albert yn ofalwr yr eglwys Fethodistaidd Saesneg yn Hen Golwyn cyn ailbriodi gyda Hannelore a symud i'r Almaen.

Bu'r ddau drosodd yng Nghymru gyda'r côr mae Hannelore yn ei arwain ac yn cynnal cyngherddau yn Eglwys Bach a Hen Golwyn.

Eleni, ein tro ni, sef 28ain ohonom o Hen Golwyn ac Eglwys Bach, oedd ymweld â'r Almaen, gan gychwyn gyda choets Foel ar Fawrth laf a chroesi o Hull i Rotterdam.

Cawsom daith braf, caban cyfforddus a bwyd ardderchog. Yna ar draws Holland a chyrraedd Apen, lle'r oedd Albert a Hannelore yn ein disgwyl.

Cawsom groeso ardderchog a chyfarfod nifer rydym yn eu hadnabod o ymweliadau blaenorol, cawl cartref gwych a sgwrs ddifyr.

Yna cawsom ein cludo i'n llety - roedd Bett Doroshenko a finnau yn aros gydag Albert a Hannelore. Cawsom swper a sgwrs yn nhref Westerstade y noson honno.

Ar y bore Sadwrn, i ffwrdd â ni gyda Dave a'r goets i dref hardd a phrysur Oldenburg, lle'r oedd coffi neu bryd o fwyd i'w gael ar y byrddau ar y pafin. Un peth oedd yn ein taro - mor barod oedd pawb oedd yn gweini i ddefnyddio Saesneg yn hapus - faint fedr roi'r un ymateb yn Gymraeg heb sôn am Almaeneg neu Ffrangeg yma?

Yna, gyda'r nos, i le arall ger Westerstade, sef ysbyty milwrol ar lan llyn Bod Zwisenhenalm sydd newydd gau i'r gwaith hwnnw, ond gyda neuadd wych a chegin a'r gwasanaethau eraill.

Cawsom gyngerdd gwych a hwyliog yno gyda phob math o eitemau, megis sgets, drama fer, partïon canu a band piano acordion.

Fe ganodd aelodau o'n parti ni, dan arweiniad y Parch David Woodward, yn wych. Roedd ef yn cymryd lle'r Parch Ruth Reynolds, sef gweinidog capel Hen Golwyn, oedd yn yr ysbyty yn cael triniaeth ar y pryd. Wrth gwrs, cafwyd swper yn dilyn y cyngerdd.

Bore Sul yn cyrraedd, ac i'r capel yn Westerstade, a braf dweud ei fod dan ei sang, gyda'r Parch David Woodward yn rhoi anerchiad a rhai o Golwyn yn cymryd rhan ynghyd ag aelodau'r capel yno.

Cawsom anerchiad i'w gofio gan Faer y dre a ddywedodd mor bwysig yw i werin y ddwy wlad gymysgu trwy ymweld a lletya â'i gilydd, o bosib na fuasai terfysg y ganrif ddiwethaf wedi digwydd petai mwy o hynny wedi digwydd.

Yna aethom yn syth o'r capel i'r goets ac am daith mewn cwch ar y llyn, a hithau'n boeth.

Aeth pawb i gartref Albert gyda'r nos - adeilad fu'n fferm fechan ar un adeg, ond sydd nawr yn glamp o dy gydag un ystafell cymaint neu fwy nag ambell i festri capel.

Cawsom ddigon o fwyd eto, cawl cartref wedi ei baratoi gan rai o'r gwragedd sydd yn gôr bach carolau adeg y Nadolig, rhai ohonynt yn wreiddiol o ochr yma i'r dŵr ond wedi priodi ac aros yn yr Almaen.

Cawsom noson wych a hwyliog gyda chanu a phob math o rialtwch, ac wrth gwrs, sôn am ymweliad arall rhwng Cymru a'r Almaen.

Bore Llun wedi cyrraedd lawer yn rhy fuan a chyfarfod ym maes parcio'r drefi gael cwta ddwy awr i gael golwg ar y siopau neu sgwrs a choffi wrth y byrddau ar y pafin. Cawsom dynnu lluniau am hanner dydd wrth y goets ac yna i Rotterdam i dal y llong.

Penwythnos i'w gofio wrth ffarwelio a ffrindiau, hyn yn anodd bob amser


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý