"Mae gen ti gyfrifiadur, 'toes? Ella medri di ddatrys rhywbeth i mi ..."
Aeth Colin ymlaen i egluro. "Gwrando ar y radio o'n i - ar y ffordd i'r gwaith nos Fawrth - pan glywais i'r cwestiwn 'ma. Cwis ffonio-i-mewn oedd hi, ond chlywais i mo'r ateb."
"Dos yn dy flaen "
"Wel, mae 'na yrrwr lori sy am ddreifio 75 milltir adra. Mae o'n dreifio ar 75 m.y.a. - yn union - wedyn, ar ôl milltir mae o'n gweld arwydd sy'n deud 74 m.y.a. Felly mae o'n arafu tipyn, a gyrru ar 74 m.y.a. am y filltir nesa, pan mae o'n gweld arwydd sy'n deud 73 m.y.a. Ac yn y blaen, nes iddo fo gyrraedd y filltir ola', ac mae o'n gorfod dreifio honno ar 1 m.y.a. A'r cwestiwn, wrth gwrs, ydy - Faint o amser mae'n gymryd iddo fo deithio'r 75 milltir adra?"
Meddyliais i am y broblem am eiliad. "WeI rhaid bod hi'n hawdd os mai cwis ffonio-i-mewn oedd o. Dw i'n siwr nad oes angen defnyddio cyfrifiadur am hyn."
Ond mwyaf y meddyliais i am y peth, mwyaf y sylweddolais i ei bod hi ddim mor syml a hynny o gwbl.
"Meddylia am y filltir ola", meddwn i o'r diwedd. "Mae honno'n mynd i gymryd awr gyfan. Ac mae'r filltir ola ond un yn mynd i gymryd hanner awr, ac yn y blaen. Y cyfan sy isio ydy ychwanegu 1 awr + 1/2 awr + 1/3 awr + ¼ awr ... hyd at 1/75 awr!
Ond sut ar ddaear mae 'neud hynny? Rhaid bod 'na fformiwla hawdd..."
"Na, does 'na ddim," atebodd Colin. "Ddim hyd y gwn i. Dw i'n meddwl am y peth ers 3 diwrnod erbyn hyn, a dyna pam dwi angen i ti ei ddatrys ar y cyfrifiadur - ar spreadsheet neu rywbeth fel 'na."
"WeI 'sgen i ddim lot o brofiad efo spreadsheets, 'sti. Mi fasai hi'n hawdd tasai gen i gyfrifiadur sy'n defnyddio'r hen BASIC. Ers talwm ro'n i'n arfer 'sgwennu rhaglenni gan ddefnyddio hwnnw, ond nid hwnnw mae cyfrifiaduron yn ei ddefnyddio bellach."
Wedyn, ar ganol y nos ces i fflach weledigaeth! Y bore canlynol teipiais i "Â鶹Éç BASIC download" yn Google, a des i o hyd i wefan addas yn syth. O fewn eiliadau roedd gen i raglen lle'r medrwn i ysgrifennu BASIC. Teipies i un llinell :
C=O: FOR M=l TO 75 : A = (60/M): C=C+A: NEXT: PRINT C
(lle C=cyfanswm, M=milltiroedd, A=amser)
Ar fin anfon neges at Colin yr oeddwn i pan ges i ail syniad gwych. Ar y We es i i safle Radio Cymru er mwyn ail-wrando ar raglen Geraint Lloyd. Rhaid bod yr ateb yno! Wel, clywais i'r cwestiwn, ond dim ond i'r awr agosaf oedd yr ateb i fod! Doedd dim eisiau bod yn fanwl wedi'r cwbl! Drwy'r rhaglen cyhoeddwyd fod pobl wedi ffonio i mewn ond heb fod yn iawn - wedyn yn y munudau olaf y dywedodd Geraint bod rhywun newydd ffonio i mewn efo'r union ateb, sef '5 awr'. Dim sôn am sut mae dod o hyd i'r ateb! A wnes innau erioed ddod o hyn i ddim fformiwla chwaith, er fy ymdrechion!
Anfonais neges at Colin am hanes y broblem, gan gynnwys yr ateb go iawn (sef 4 awr 54.0813379 munud!).
Ymlacio dros bryd o fwyd yr wythnos wedyn yr oedden ni pan ddywedodd Colin, "Hei, welest ti'r Weakest Link neithiwr? Roedd 'na ryw gwestiwn am ddŵr yn berwi. A dw i 'di bod yn meddwl ... Os bydd dŵr yn berwi ar dymheredd is ar gopa mynydd, pam mae'n cymryd mwy o amser i 'neud panad? Dw i'm yn dallt hynny. Mae gen ti gyfrifiadur, toes? "
Cyfarchion y tymor i chi i gyd.
Mwy am Gyfrifiaduron a Byd y We mis nesaf.
Gan Tony Ellis