Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Pentan
Andy Williams Dyfarnwr Rhyngwladol Lleol
25 Chwefror 2003
Andy Williams, o Fae Colwyn yn wreiddiol, ac yn awr o Fae Colwyn Uchaf, yw'r Dyfarnwr Hoci cyntaf, ers chwarter canrif, o Ogledd Cymru, i ddod yn Ddyfarnwr gyda'r Ffederasiwn Hoci Ryngwladol.

Golyga hynny alwad i reoli gemau rhyngwladol mewn unrhyw ran o'r byd. Daw ei gyfle cyntaf yn ystod y Pasg eleni yn Zagreb, Croatia, lle cynhelir Campwriaethau Clybiau Ewrop. Bydd yno, gyda chymorth a chefnogaeth ei wraig Liz, am bum niwmod. Mae hi'n hapus i rannu'r dreifio a bod yn "weddw hoci".Dymunwn yn dda i'r ddau ohonynt ar y cyfandir.

Bu Andy'n chwarae pêl-droed, rygbi a hoci pan oedd yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Eirias, ond yr hoci aeth â'i fryd ar ôl hynny. O adael yr ysgol hyd heddiw, bu'n chwarae gyda Chlwb Bae Colwyn, fel cefnwr yn bennaf, er ei fod, erbyn hyn, yn canolbwyntio ar y dyfarnu.

Dywed ei fod yn gwybod y byddai'n ddyfarnwr rhywbryd, yr oedd, bob amser, yn hoffi Ilamu i'r bwlch os oedd prinder dyfarnwyr. Cyn cyrraedd y brig fel rheolwr cafodd ei asesu gan arbenigwyr yng Nghymru a Lloegr, a bu'n teithio ymhell ar benwythnosau.

Ar ben hynny, ef, sy'n 40 mlwydd oed, yw Llywydd Clwb Hoci Bae Colwyn. Mae Andy'n teimio'n ddyledus iawn i'r rhai fu'n gefn iddo, ym myd hoci, tros y blynyddoedd. Cyfeiria at y diweddar Bill Beattie am ei gyflwyno i'r gêm, ei wraig Elisabeth, a Ceri O'Donnell am ei gefnogi i'r eithaf ymysg y rhai pwysig. Mae hefyd yn ddiolchgar i John a Meryl Roberts, Bae Penrhyn, am eu holl waith yn hybu hoci ymysg yr ifainc. Sefydlwyd ganddynt hwy, a'u cynorthwy-wyr, Gynghrair ragorol i ferched a bechgyn Bae Colwyn.

Rheolwr Cyfrifon gyda Chwmni Mr Peter R Rawlings (Bae Colwyn) yw Andy, sy'n hynod falch fod ei Bennaeth yn ymddiddori mewn chwaraeon. Mae'n chwaraewr golff ardderchog (meddai Andy!) ac yn garedig iawn tuag ato pan fo'n mynd ar daith arall i'r pellteroedd, yn ystod oriau gwaith.Haedda Andy ei lwyddiant oherwydd ei fod mor ymroddgar i hoci, a'r dyfarnu yn arbennig. Os i ffwrdd ar wyliau bydd yn darllen llawer, gan ganolbwyntio'n aml ar reolau hoci, sy'n tystio i'w broffesiynoldeb. Mae'n synnu fod sawl chwaraewr safonol yn ansicr o'r rheolau, ac yn dod i ofyn iddo ef ar y diwedd, yn eu diffyg gwybodaeth.

Pan â i reoli dramor nid oes problem ieithyddol meddai, gan fod pawb bron yn siarad Saesneg. Er hynny mae Andy'n paratoi yn ofalus, drwy ofyn i rywun Ileol am ychydig o regfeydd! Pwrpas hyn yw ceryddu, gyda gwên, chwaraewyr sy'n rhegi yn ystod y gêm. Credant fod y dyfarnwr yn aml-ieithog!

Cofiwn gyfnod, beth amser yn ôl, pan welwyd hoci yn gêm i ferched. Diolch byth, daeth tro ar fyd, ac erbyn hyn, mae gogledd Cymru yn cynnwys mwy o lawer o glybiau Hoci dynion na marched. Ar y llaw arall pwy fyddai'n credu fod merched yn awr yn chwarae cymaint o rygbi a phêl-droed?

Diolchwn fod ambell Andy Williams arall ar gael, sy'n barod a chyson i hybu chwaraeon o bob math.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý