Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Humphrey Jones Humphrey Jones a'r llong Tamerlane
Tachwedd 2009
Hanes y rheiny a deithiodd ar y Tamerlane o Aberystwyth i Quebec yn 1847.

Yn gynnar fore Llun, 31 Mai 1847, gadawodd Llong hwyliau enfawr 700 tunnel! o'r enw Tamerlane borthladd Aberystwyth am Quebec yng Nghanada.

Ar ei bwrdd yr oedd tua 242 o ddynion, merched a phlant o ogledd Ceredigion, y rhan fwyaf o ardal Lledrod, Trisant, Mynydd Bach, a Phont-rhyd-y-groes.

Eu bwriad oedd teithio i Quebec gan weithio eu ffordd i lawr y llynnoedd mawr i ogledd America i ardal Oshkosh yn Wisconsin er mwyn sefydlu bywyd newydd yno.

Hynodrwydd y fintai at fwrdd y Tamerlane oedd eu bod i gyd yn Gymry Cymraeg, i gyd o'r un ardal fwy neu lai, ac fel un teulu mawr.

Cymerodd y !long naw wythnos i groesi'r Iwerydd ac o'r holl bobl oedd arni dim and un fu farw at y daith.

Rhaid cofro bod newyn tatws Iwerddon yn ei anterth ar y pryd, gyda'r holl afiechydon a chlefydau heintus yn ymledu yn ei sgil.

:

Plentyn dwyflwydd oed oedd David Thomas Davies pan fentrodd at y daith enbyd honno gyda'i deulu, a bu'r fordaith yn brofiad mor frawychus iddo fel nad aeth yn agos at gwch am weddill ei fywyd.

Cyrhaeddodd y Tamerlane Quebec yn niwedd Gorffennaf a'r fintai honno oedd sylfaenwyr y Sefydliad Cymreig yn Oshkosh, yn Awst 1847.

Yn Hydref 1847 ymfudodd Hugh ac Elisabeth Jones, Gwarcwm-bach, Llangynfelyn i Efrog Newydd gyda dau fab, Hugh a John, a'u merch Susanna, gan adael Humphrey Jones, y mab arall, yn fachgen pymtheg oed gyda'i fodryb Sophia yn yr HalfWay Inn, Tre'r-dddl.

Yn 1852 symudodd ei rieni i'r Sefydliad Cymreig yn Oshkosh. Roedd Humphrey Jones a'i fryd at fynd i'r weinidogaeth gyda'r Wesleaid yng Nghymru, and fe'i gwrthodwyd am nad oedd galw am weinidogion; oherwydd hynny ymfudodd yntau at ei deulu yn 1854.

Ef fu'n gyfrifol am sefydlu eglwys Wesleaidd Bethel, Oshkosh yn 1855 gyda chymorth aelodau'r frntai oedd at y Tamerlane ac of oedd ei gweinidog cynta£.

Yn 1856 cafwyd Diwygiad nerthol yno a Humphrey Jones yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw.

Bu wrthi'n pregethu'n ddi-baid am ddwy flynedd yn y sefydliadau Cymreig yn Wisconsin, Ohio, Pensylfania ac Efrog Newydd cyn penderfynu dychwelyd i Gymru ym Mehefin 1858.

Pan ddaeth Humphrey Jones yn amlwg fel Diwygiwr, roedd yn ddyn ifanc cryf o gorff a meddwl, yn olygus a diymhongar a chanddo ddawn llefaru cyfoethog a swynol.

Dychwelodd i Dre'r-ddôl o ganol gwres a chynnwrf diwygiad mawr America, and roedd yn wynebu cyfnod isel iawn yn hanes crefydd yng Nghymru.

Teithiodd o Lerpwl yn y goets fawr gan ddisgyn wrth ddrws yr Half fWay Inn, ei hen gartref, a dechreuodd gyfres o gyfarfodydd yn yr hen Gapel, Tre'r-ddol a arweiniodd at Ddiwygiad Mawr 1859 y dethlir ei gan mlwyddiant a hanner eleni.

Llwyddodd Humphrey Jones i gael y Parch Dafydd Morgan, Ysbyty Ystwyth i gydweithio ag ef a chafwyd cyfarfodydd eithriadol o rymus yn yr ardaloedd rhwng Ystumtuen a Phont-rhyd-y-groes.

Roedd Humphrey Jones yn ei elfen ynghanol perthnasau a theuluoedd y fintai a ymfudodd i Oshkosh.

Cymaint oedd dylanwad ac effaith y ddau ddiwygiwr fel y bu iddynt wagio tafarndai'n !lawn o feddwon oedd yn rhegi ac yn ymladd yn ofnadwy ar nos Sadwrn tâl yn ardal y gweithfeydd mwyn, a hynny drwy rym eu gweddiau'n unig.

Rhedai pawb allan mewn braw ac aeth hyd yn oed y tafarnwr i guddio yn rhywle.

O fewn ych ddyddiau roedd y meddwon hyn wedi eu derbyn yn aelodau eglwysig.

Ymledodd y Diwygiad drwy Gymru gyfan, and roedd tair blynedd yn ei wres a'ii gynnwrf wedi amharu ar iechyd Humphrey Jones.

Rhwng cyfnodau mewn ysbytai meddwl, enciliodd i Ddôlcletwr lle roedd ei fodryb Sophia yn byw hyd 1871 pan ddaeth ei frawd John draw o'r America i'w gyrchu'n ô1 yno at ei deulu.

Bu'n glaf o gorff a meddwl am flynyddoedd, ond yn raddol adferwyd ei iechyd a dychwelodd drachefn i weinidogaethau ar eglwys Bethel yn Oshkosh gyda'r Cymry a ymfudodd o ogledd Ceredigion at y Llong Tamerlane. Bu farw ar 8 Mai 1895 ac fe'i claddwyd yn Brant, Wisconsin.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý