Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
John a Jill Roberts Diwedd Cyfnod
Rhagfyr 2008
Bu John Roberts yn trefnu teithiau cerdded a gweithgareddau awyr-agored am flynyddoedd lawer. Gwahoddwyd John i ysgrifennu ychydig eiriau i Papur Pawb.

Ar ôl dod i'r ardal hon yn 1975 i weithio ym Mhlas Einion, Ffwrnais - a oedd ar y pryd yn Ganolfan Astudiaethau Gwledig yn perthyn i awdurdod addysg yn Llundain - bu John Roberts yn trefnu teithiau cerdded a gweithgareddau awyr-agored am flynyddoedd lawer, a chafodd cannoedd o blant a phobl ifanc lleol gyfle i fanteisio ar ei arbenigedd a'i sgiliau.

Yn 1987 symudodd ef a Jill i Felin-fach, Tal-y-bont, ac yn 1990 ailgodwyd y Felin Lifio yno i gartrefu pobl a ddeuai ar gyrsiau a drefnid ganddynt. Nawr, ar ôl 45 mlynedd maent wedi ymddeol o'r gwaith a gwahoddwyd John i ysgrifennu ychydig eiriau i Papur Pawb. Dymunwn yn dda i'r ddau yn cu hymddeoliad.

Ar ôl tua 45 o flynyddoedd yn trefnu ac yn arolygu cyrsiau mynydda, rydym wedi penderfynu ymddeol. Rydw i ar fin cyrraedd oed yr addewid er bod Jill, fel Myrddin, yn mynd yn iau o flwyddyn i fiwyddyn!

Ar yr un adeg, roedd delio gyda rhywun â'i bendics wedi byrstio yn Lluest y Rhos, neu'n dioddef ffit epileptaidd yn Bwlchystyllen, neu gael ein galw at rywun oedd mewn coma oherwydd alergedd i gnau, i gyd yn rhan o ddiwrnod gwaith arferol.

Ar gyfer hyn mae angen pen clir a phâr o goesau cyflym. Rydym wedi penderfynu ei bod yn bryd i ni roi'r gorau iddi.

Dros y blynyddoedd rydym wedi teithio gyda tua 20,000 o Blant a phobl ifanc ar fryniau a mynyddoedd yng ngwledydd Prydain ac Ewrop.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl yn yr ardal hon heb help a chydweithrcdiad y ffermwyr. Mae'r rhan fwyaf o'n clientiaid wedi dychwelyd adref gydag agweddau positif fawn tuag at Cymru a'i phobl.

Yn aml iawn, uchafbwynt eu hymweliad oedd cwrdd â ffermwr lleol oedd yn dangos diddordeb yn eu taith ac yn cynnig help a chyngor. Dyna i chi.

Ffordd wych o hysbysebu eich cynnyrch - mae'n bosib y bydd y bobl hynny bellach yn prynu cig o Gymru yn hytrach nag o Seland Newydd!

O hyn ymlaen, byddwn yn trefnu teithiau ar ein cyfer ni'n hunain yn unig, gyda thrip hir arall i fyny Afon Gambia yn yr arfaeth. Bellach, mae Jill wedi dysgu peidio â phlygu dros yr ochr pan fydd hi mewn canw ar ddwr lle mae 'na grocodeilod!

Byddwn hefyd yn dychwelyd i'n hoff fannau yn yr Alpau a'r Pyrenees. Ac Yn olaf, ar wahoddiad ein meibion Gareth a Deri, byddwn yn mynychu gwyliau cerdd gwych a gwachul!

Rydum wedi gorfod cyfaddawdu mewn un peth oherwydd ein hoedran. Ar ôl bod yn gwersylla'n ddiweddar ar arfordir Norfolk mewn pabell mor isel fel bod yn rhaid cropian i mewn iddi, gan ddioddef corwyntoedd a glaw yn disgyn fel hen wragedd a ffyn, rydym wedi penderfynu ei bod yn hen bryd i ni brynu pabell y gallwn sefyll lan ynddi!

Er mwyn talu am y moethusrwydd hwn, rydym wedi cyfuno ein lwfans gwresogi i'r henoed, ac yn gwisgo rhagor o ddillad. Gyda thipyn o lwc, a iechyd, bydd bywyd yr un mor gyffrous ag o'r blaen!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý