Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
C Ff.I Talybont C Ff.I Talybont
Chwefror 2009
Eleri James suy'n bwrw golwg dros gyfnod prysur yn hanes Clwb ffermwyr Ifainc Talybont

"Mi fuasech wedi tybio mai golygfa o `bremier' ffilm oedd e, pan welwyd criw go lew yn troi allan y Llew Du wedi Jibincio, mewn ffrogiau hardd, high heels,.a'r bois mewn dici-bows a DJs! Ond yn anffodus - dim carped coch! le, dangoswyd bod aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Talybont yn medru bod yn smart

Ar gychwyn noson Daqwns y Frenhines Ceredigion a gynhaliwyd ar y 9fed o Ionawr yn Aberystwyth. Mwynhawyd y noson yn fawr iawn!

Ers hynny, practis, ar ô1 practis sy' 'di bod, yn barod ar gyfer ein panto. Byddwn yn cystadlu ar nos Fawrth 17eg o Chwefror, felly croeswch eich bysedd i ni! Ni'n iawn ffodus iawn bod Elen Pencwm wrth y llyw eleni eto. Cofiwch gadw'r 4ydd o Fawrth yn rhydd yn eich dyddiaduron - byddwn yn cynnal noson Pantos gyda rhai eitemau gan yr aelodau.

A goeliech chi byth, cafwyd noson arall mas yn yr un mis! Casglwyd pawb yng Ngwesty'r Marine ar gyfer ein Cinio Blynyddol ar ddiwrnod olaf mis Ionawr. Y gŵr gwadd oedd Derrick Davies, Ty'n Ddraenen a'I straeon carlamus ... eitha handi i chwerthin y caloris bant! Cafwyd anerchiad pwrpasol - neu her ddylswn i ddweud - gan ein llywydd anrhydeddus Enoc Jenkins, Ty'n Graig ac ar yr un gwynt carem ddiolch yn fawr i Enoc a Margaret am eu cefnogaeth a'r rhodd dael. Rhaid nodi dawn arbennig Elgan 'Chief'Evans, Tynant am ei araith a threfn y noson. Cyflwynwyd dau blât yn ystod y noson fel rhan o'n traddodiad, i Aled a Caryl, Hafodau ac i Prys a Heledd Ty'n Cwm at achlysur eu priodasau.

Efallai y cofiwch nôl i fis Tachwedd pan gynhaliwyd Cwis y Sir - daeth y canlyniad drwyddo i ni ddod yn 4ydd ar y cyfan! Ymdrech dda weden i!

Bydd raffl fawr ar werth gan yr aelodau yn ystod y mis yma, felly achubwch ar y cyfle i gael y siawns i ennill gwobrau gwerth chweil!"


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý