Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Ellen ap Gwynn, Diana Jones ac Eirwen Hughes Côr Merched Ceulan: Diwedd Cyfnod
Tachwedd 2003
Bu Nos Fercher, Hydref 10 yn ddiwrnod trist iawn i nifer ohonom oherwydd dyna'r diwrnod y cynhaliwyd cinio ffarwel Côr Merched Ceulan.

Erbyn hyn yr oedd y côr yn un o fudiadau sefydlog yng ngweithgarwch y pentref ac yn adnabyddus drwy ardal gyfan. Cynhaliwyd cyngherddau ar hyd a lled Cymru ond yn enwedig yn y canolbarth, ac mae nifer o storïau difyr sydd wedi dod yn chwedl erbyn hyn yn hanes y côr.

Sefydlwyd y côr i ddechrau yn yr wythdegau gan Eleri Huws ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth. Yr oedd Eleri yn ddeheulaw ar y piano a'r delyn ac yn arbennig am osodiadau Cerdd Dant ac wedi hyfforddi nifer o bartïon yn ei thymor fel athrawes yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth.

Merched Tal-y-bont oedd mwyafrif yr aelodau y pryd hynny, ac mae nifer ohonom yn dal i gofio'r rhagbrofion a gynhaliwyd yn Ninas Mawddwy yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol - ein cystadleuaeth gyntaf. Côr Cerdd Dant oeddem yn bennaf ac yr oedd yn hyfryd cael dysgu cerddi Cymraeg traddodiadol a modern ar ein cof. Cynhaliwyd nifer o gyngherddau gan ychwanegu caneuon gwerin a chlasurol i'r repertoire. Aethom i gystadlu llawer wedi hynny, mewn gwyl ac eisteddfod ar hyd a lled Cymru.

Ar ddiwedd y nawdegau, cymerwyd yr awenau gan Eirwen Hughes, Pencwm, Penrhyn-coch. Yr oedd yr enillydd ar gystadleuaeth y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn adnabyddus fel unawdydd ac am arwain cymanfaoedd heb sôn am gyfeilio i unawdwyr eraill. Ymunodd nifer o aelodau newydd yn ystod y cyfnod ac erbyn y diwedd yr oedd cynrychiolaeth aelodau o ardal eang. Nid oedd y côr yn cystadlu erbyn hyn ond yn hytrach yn cynnal cyngherddau. Daeth cyngerdd Gwyl Ddewi yn y Marine er budd rhyw achos da yn achlysur blynyddol a phwy na all gofio'r chwerthin afreolus ar jôcs Dai Jones Llanilar a'r artistiaid adnabyddus a fu'n perfformio ynddynt.

Yn anffodus, mae pob peth da yn ôl y gair yn gorfod dod i ben, a chynhaliwyd cyfarfod ffarwel yn 'Y Barn', Clarach ar Hydref 10, 2003, dros bwffe blasus. Er tristed yr achlysur, mawr oedd y chwerthin wrth gofio aml i dro trwstan wrth geisio ffeindio ffordd i gyngerdd mewn lle anghysbell neu ar bethau doniol a ddigwyddodd wrth i ni i gyd gwrdd.

Talwyd teyrnged i Eirwen gan Ellen ap Gwynn gan ddiolch iddi am ei gwaith a'i hyfforddiant yn ystod ei hamser fel arweinydd a chyflwynwyd siec iddi fel arwydd o'r diolch hwnnw.

Diana Jones


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý