Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Y plant yn Sierra Leone Catrin yn Sierra Leone
Ionawr 2006
Yn ddiweddar, bu Catrin M S Davies, Talybont, yn Sierra Leone yn ffilmio - profiad rhyfeddol ac ysgytwol. Yma mae'n adrodd hanes ei thrip.

Ddiwedd 2004 mi glywais bod S4C yn chwilio am raglenni am Gymry ifanc sy'n dilyn gyrfa ddifyr. Bu^m yn holi pawb a chlywais am gyn-ddisgybl ym Mhenweddig oedd yn gweithio yn Sierra Leone i'r Cenhedloedd Unedig - Tom Cairnes. Es ati i e-bostio a chael nodyn bywiog yn ôl yn dweud bod croeso i mi ei ddilyn wrth ei waith!

Mae ganddo hanes anhygoel gan iddo weithio fel ymgynghorydd busnes i un o gwmnïau mwyaf dylanwadol Llundain ac Efrog Newydd am dair mlynedd. Dewisodd droi ei gefn at y bywyd bras a mynd i weithio yn ngwlad dlotaf y byd yn helpu'r bobol i greu economi i'w gwlad. Wrth e-bostio Tom i drefnu'r cyfnod ffilmio, soniodd y byddai'n hoffi creu cysylltiad rhwng ysgol o Gymru ac ysgol yn Freetown, prif ddinas Sierra Leone. Atebais yn syth, gan wybod y byddai Ysgol Gynradd Tal-y-bont yn barod iawn i helpu (doedd ddim angen gofyn!) Cefais sioc wedyn pan atebodd i ddweud ei fod yn gyn-ddisgybl yn Nhal-y-bont - do'n i ddim yn gwybod ei fod yn grwt mor lleol! Bydd llawer o'r ardal yn cofio Tom a'i deulu yn byw yn Nhaliesin.

Codwyd £75 gan blant Ysgol Tal-y-bont ac ar ôl i'r cwmni gyfrannu ychydig roedd hi'n bosib prynu beiro, pensil, creon lliw, ffolder, llyfr ysgrifennu a sialc i bob plenryn ac athro - dros 500 i gyd. Mae hynny yn lawer iawn o fagiau - bu sawl munud tense iawn yn y maes awyr gan eu bod yn aruthrol o drwm, ond bu ewyllys da o'n plaid ni a chawsom fynd â phopeth gyda ni i Ysgol Caerdydd, Freetown lle y mae Tom yn helpu bob yn ail benwythnos.

Yno mae 10 dosbarth gyda rhyw 50 o blant ymhob un, ac oedrannau'r plant yn amrywio o 3 i 17 oed - y rhai hynaf wedi colli'r cyfle i gael addysg pan yn blant bach oherwydd y rhyfel cartref erchyll. Roedd y dosbarthiadau mewn adeiladau tlawd iawn yr olwg ac mae sawl buwch yn Nhal-y-bont yn byw mewn siediau mwy cyffyrddus.

Er tloted y plant a'r ysgol, roedd y croeso yn gynnes iawn. Roedd yr athrawon mor falch o gael peth mor syml â sialc - hwnnw wedi gorffen a dim gobaith prynu mwy. Roedd yr heb gyflog ers chwe mis ac yn gwneud gwaith arall gyda'r nos er mwyn cynnal eu hunain. Roedd plant Tal-y-bont wedi ysgrifennu llythyron a gwneud lluniau i'r plant a dywedodd yr athrawon wrthon ni am ddychwelyd ddiwedd yr wythnos a byddai yna lythyron i ddod nôl i Gymru.

Yn y llun mi welwch chi'r olygfa oedd yn ein disgwyl ymhen dyddiau - y plant lleiaf i gyd â'u llyfr sgwennu - ac roedden nhw mor falch o'r gwaith yr oedden nhw wedi ei wneud yr wythnos honno. Llyfr cyntaf y mwyafrif gan eu bod yn rhy dlawd i allu prynu un. Roedd yna bentwr o luniau a llythyron i ddod yn ôl i Dal-y-bont hefyd - ysgrifau a delweddau ffantastig.

Beth yw'r ddelwedd sy'n aros yn y cof i mi? Y plentyn bach oedd yn byw gyda'i athrawes gan bod ei fam a i dad wedi eu lladd yn y rhyfel. Does gennym ni ddim amgyffred, yn nag oes? Nid gwlad wahanol yw hon, nid cyfandir gwahanol - mae'n fyd hollol wahanol.

Bydd y rhaglen am Tom Cairnes yn ymddangos ar S4C ym mis Mawrth.

Erthygl gan Catrin M S Davies


Cyfrannwch

Philip Glynn Newtown Powys
I have already asked this once, can this piece be translated into English please. My wife was brought up in Sierra Leone and would love to be able to read this.

Thank you for your comment. This article is taken from the Welsh language Papur bro 'Papur Pawb' (in the Tal-y-bont, Ceredigion area.) We do not translate these articles, as our website is a Welsh language one for the mid Wales area.
If however you require some help with the Welsh, you may turn on Â鶹Éç VOCAB,(the button is found on the left hand side of this page.) This will highlight some Welsh words and give the English translation. The English language Â鶹Éç website for the Powys area is bbc.co.uk/wales/mid
Producer Lleol i Mi Canolbarth


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý