Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Bugail - cyffredinol Ucheldir Pumlumon
Ionawr 2010
Hanes noson fideo am Edgar Humphreys, bugail olaf ucheldir Pumlumon.

Flwyddyn yn ôl bu farw'r diweddar Edgar Humphreys, Penlon, Tal¬y-bont, Ceredigion, yn 99 mlwydd oed; ef oedd yr olaf o'r rhai brofodd fyw a gweithio yn yr ardal anghysbell honno ll;e saif cronfa Nant-y¬moch heddiw.

Bu ucheldir Pumlumon a'r cyffiniau yn agos fawn at ei galon drwy gydol ei oes, a thra gallai parhaodd ei ddiddordeb mewn arferion cefn gwlad, megis hela a physgota.

Wrth lwc, fe'i bendithiwyd a chof eithriadol am y blynyddoedd cynnar a chaled hynny yn yr unigeddau llwm.

Yn ffodus, roedd Gwilym Jenkins, Llety'r Bugail, Tal-y-bont yn ddigon hirben i sylweddoli mor amhrisiadwy oedd yr atgofion hyn a bod angen i rywun eu cofnodi cyn iddi fynd yn rhy ddiweddar. Felly, yn nechrau'r 1990au aeth Gwilym Jenkins ati, gyda'i gamera fideo, i holi Edgar Humphreys am ei filltir sgwar a'i fywyd lliwgar. O ganlyniad, lluniwyd fideo ddogfen werthfawr iawn o ffordd o fyw sydd bellach wedi diflannu'n llwyr o'r tir, ac hefyd o gymeriad rhadlon a ffraeth a ddechreuodd ei yrfa fel bugail mynydd ond a fu'n gweithio wedi hynny fel coedwigwr, chwarelwr ac adeiladwr.

Yn awr, ddeunaw mlynedd yn ddiweddarach, daw cyfle prin i weld y portread gwerthfawr hwn fel rhan o'r gweithgareddau i godi arian tuag at Gronfa Sioe'r Cardis 2010.

Trefnir dwy noson, er mwyn rhoi cyfle i weld y fideo yn ei chyfanrwydd. Yn rhan 1, a ddangosir rhwng 7.30 a 9 or gloch nos Fercher 20 Ionawr yn Neuadd Goffa Tal-y-bont, fe ddilynwn ôl-traed Edgar Humphreys o fan ei eni yng nghyffiniau Cwm Symlog i Fwlchstyllen, Llechwedd¬mawr a Hengwm Annedd.

Yn rhan 2, a ddangosir am 7.30 nos Fercher 3 Chwefror, cychwynnir ger Capel Tabor, ar bwys cronfa Nant-y-moch, cyn symud ymlaen i Lyn Plas-y¬mynydd, Llyn Pen-rhaeadr, Cwm Einion, Cwm Tynant a Chwm Ceulan.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý