Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Sioe Tal-y-bont Treialon Cwn Defiad
Medi 2005
Cafwyd diwrnod llwyddianus yn nhreialon cŵn defaid yn eu lleoliad newydd yn Llety Ifan Hen. Mae Ieuan Morgan yn adrodd am y digwyddiad ac yn rhoi'r canlyniadau.

Oherwydd y cyfyngiadau ar symud defaid, bu raid newid lleoliad y treialon am eleni. Felly, ar wahoddiad Mr a Mrs Emyr Davies, fe'u cynhaliwyd yn Llety Ifan Hen ddydd Mercher 3 Awst.

Gosodwyd y cae bnawn Mawrth mewn haul braf, ond erbyn y treialon lleol nos Fawrth roedd wedi dechrau glawio a'r niwl yn gwneud pethau'n anodd i'r cystadleuwyr a'r beirniad.

O ganlyniad, braidd yn ofidus oedd aelodau'r pwyllgor yn gadael y cae y noson honno. Ond gwawriodd bore Mercher yn braf a dechreuodd y treialon yn fuan wedi hanner awr wedi saith. Parhaodd y tywydd yn braf drwy'r dydd ac roedd yn hanner awr wedi naw nos Fercher pan ddaeth y treialon i ben ar ôl 143 o rediadau.

Felly cafodd y beirniad, Mr Evan Hopkins o Bontrhydygroes, ddiwrnod hir iawn; roedd hi wedi nosi erbyn didoli'r canlyniadau, ac wrth olau'r garafan y'u cyhoeddwyd ac y rhannodd y llywyddion, David a Dilys Morgan, Alltgoch, y gwobrau.

Islwyn Jones, Capel Bangor gyda'i gi Nap a enillodd y cawg rhosynnau, yn rhoddedig er cof am Mr Richard Edwards, Lletyllwyd, am rediad gorau'r dydd, a'r cwpan yn rhoddedig gan y ddiweddar Mrs Iona Rowlands er cof am ei brawd, Mr Evan Hopkins, am y rhediad gorau yn y dull de Cymru.

Islwyn Jones hefyd a enillodd y dosbarth i nofis yn y dull de Cymru a'r wobr, er cof am Mrs Mary Edwards a Mr Jenkin Morris Lletyllwyd, am y rhediad gorau cyn hanner dydd - ond gyda Gael y tro yma.

Enillwyd y wobr am y rhediad gorau yn y dull cenedlaethol gan Idris Morgan, Bontnewydd gyda Ned, a'r dosbarth cyfyngedig i Geredigion a'r cwpan rhoddedig gan y diweddar Mr Ken Jones er cof am Mr D. J. Williams, Cynnullmawr, gan Martha Morgan o Dregaron gyda Becs. Enillydd y treialon lleol nos Fawrth oedd Dafydd Jenkins, Tanrallt, gyda Dulas.

Cynhaliwyd cystadlaethau cneifio yn hwyr y prynhawn gyda Dafydd Jenkins, Penpompren Uchaf yn beirniadu. Y canlyniadau oedd:

Cneifio â gwellau: 1. Enoc Jenkins, Tyngraig; 2. Dafydd Jenkins, Tanrallt; 3. Ken Evans, Coedgruffydd.

Cneifio peiriant - agored: 1. Dafydd Jenkins; 2. Dilwyn Evans, Tynant; 3. Rhydian Evans, Tynant.

Cneifio peiriant - aelodau CFfI: 1. Rhydian Evans; 2. Elgan evans, Tynant.

Cneifio peiriant - aelodau CFfI dan 21 oed: 1. Elgan Evans; 2. Rhydian Evans.

Cafwyd diwrnod llwyddianus iawn yn ein lleoliad newydd, gydag un o'r niferoedd uchaf erioed o rediadau. Ymysg y cystadleuwyr roedd gwraig o'r Almaen, ac ymysg y gwylwyr roedd gwraig o'r Iseldiroedd. Mae'n amlwg fod enw da treialon Tal-y-bont wedi lledu ymhell!

Erthygl gan Ieuan Morgan


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý