Mae'n anodd credu bod y papur wedi goroesi cyhyd o gofio mai arbrawf am dri mis oedd e yng ngolwg ei sylfaenwyr wrth gynllunio lansiad y rhifyn cyntaf. Ond yn dilyn y croeso gwresog a roddwyd i'r rhifynnau cynnar buan iawn y daeth Papur Pawb yn rhan annatod o weithgarwch cymdeithasol a diwylliannol y fro. Hefyd o fewn ychydig fisoedd fe aeth ardaloedd eraill ati i efelychu Papur Pawb ac erbyn diwedd y 1980au roedd dros hanner cant o bapurau bro ar hyd a lled Cymru. Mae llwyddiant pob papur bro yn dibynnu'n llwyr ar gyfraniad a chefnogaeth trigolion yr ardal ac yn hyn o beth bu'r papur yn ffodus iawn bod cymaint o unigolion wedi rhannu'r baich o gasglunewyddion, llunio adroddiadau, tynnu lluniau, cyfrannu colofnau, casglu hysbysebion a dosbarthu'r papur. Os yw'r papur am oroesi 30 mlynedd arall bydd angen rhagor o wirfoddolwyr i ysgafnhau baich y rhai hynny sydd wedi bod wrth y gwaith ers cyhyd. Apeliwn a bawb sydd yn awyddus i gyfrannu mewn unrhyw fodd tuag at wella a chryfhau'r papur i gysylltu â'r Golygyddion Cyffredinol, sef Eleri a Gwilym Huws (01970 832231) yn ystod yr wythnosau nesaf. Yn y cyfamser carem ddiolch i bob un sydd wedi cyfrannu mewn unrhyw fodd i'r papur dros y 300 rhifyn cyntaf am eu cymorth parod. Gobeithiwn ddathlu penblwydd Papur Pawb yn 30 mlwydd oed mewn ffordd addas yn rhifyn mis Medi.
|