Roedd wythnos hanner tymor yn nhrydedd wythnos Chwefror ymhlith y twymaf o fewn cof ac arwyddion pendant i'w gweld ymhobman ein bod ar drothwy gwanwyn cynnar fel y llynedd (er mae'n wir dweud bod ambell hynafgwr yn ein rhybuddio'n flynyddol na ellir mentro dweud bod y gaeaf drosodd tan Galan Mai!). Ond yna o fewn llai na diwrnod a hanner i'r plant ddychwelyd i'r ysgol ar ôl y gwyliau hanner tymor hiraf mewn hanes fe'u hanfonwyd adref eto pan ddechreuodd fwrw eira'n drwm fore lau 26 Chwefror. O fewn ychydig oriau roedd tua 6 modfedd o eira ar lawr, ac am ychydig oriau roedd anhrefn ar brif ffyrdd yr ardal cyn weithwyr y Cyngor allu clirio'r gwaethaf. Ond bu rhai o'r ffyrdd llai dan eira a rhew am ddyddiau. Erbyn canol pnawn lau fe giliodd y storm a gwenodd yr haul ac felly y bu am y tridiau, gyda'r ardal i gyd yn bictiwr i'r llygaid. Yn naturiol, roedd y plant mawr a bach wrth eu bodd yn manteisio ar y cyfle prin a gawn yn yr ardal hon i wneud dyn eira, taflu peli eira a sledio, yn hytrach na bod wrth eu desgiau yn yr ysgol. Yn Nhaliesin bu plant y pentref (gyda chymorth ambell oedolyn oedd yn mwynhau ail-fyw eu plentyndod) wrthi'n ddiwyd yn codi iglw anferth a lluniwyd sawl cawr eira gan blant Tal-y-bont. Er bod yr eira wedi cyrraedd ar ganol y tymor wynau, ac nad oedd yr eira yn hwyl i'r ffermwyr, ni chlywsom am golledion, a hynny mae'n siŵr am na chafwyd gwynt cryf i greu lluwchfeydd hyd yn oed yn yr ucheldiroedd. Ni chawsom adroddiadau chwaith am ddamweiniau, ond fe gafodd un neu ddau ddihangfa ffodus pan lithrodd tractor a threlar ar draws y ffordd fawr ar ganol rhiw Penrhiw ychydig ar ôl 8 o'r gloch fore lau. Bu 'n rhaid gohirio ambell ddigwyddiad, gan gynnwys Eisteddfod Ysgol Tal-y-bont, yn sgil yr eira. Mae'n braf ambell dro cael cyfle i brofi bywyd pentrefol fel yr oedd erstalwm, gyda phawb yn mwynhau diwrnod neu ddau i ymlacio a chymysgu a chymdogion a ffrindiau.
|