Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Susan Rowlands Llwyddiant brîdwraig leol
Mehefin 2007
Mae Susan Rowlands, Hen Hafod, Ffwrnais, yn fridwraig defaid o fri.

Mae ganddi ddiadell o dros 30 o ddefaid Zwartbles pedigri y bu'n eu magu ers saith mlynedd, a diwedd Mai fe gafodd lwyddiant mawr yn Sioe enwog y Bath & West.

Daeth adref gyda phedair gwobr i gyd, dau gyntaf, un ail ac un pedwerydd. Enillodd un o'r gwobrau cyntaf am ddangos grŵp o dri, sef un oen hwrdd a dwy oen fenyw. Gosodwyd y grŵp o dri gan y beirniad ymhlith y pump gorau allan o bedwar ar hugain yn mhencampwriaeth yr holl ddosbarthiadau defaid, ac fe welir Susan yn y llun yng nghwmni'r grŵp trawiadol hwn o wyn a anwyd eleni.

Fel yr oedd Papur Pawb yn mynd i'r wasg, yr oedd Susan yn paratoi'r defaid ar gyfer Sioe Aberystwyth, ac yna byddai'n dangos yn sioe Castell Newydd Emlyn, cyn troi am y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf. Ond nid dangos defaid yn unig y bydd Susan yr haf hwn, ond beirniadu hefyd.

Derbyniodd wahoddiad i feirniadu dosbarth y defaid Zwartbles yn Sioe Gogledd Cymru yng Nghaernarfon eleni, ac mae'n amlwg fod parch iddi ymhlith aelodau cymdeithas y brîd. Sefydlwyd Cymdeithas y Defaid Zwartbles yn 1995 er mwyn hyrwyddo'r ddafad hon a ddaw yn wreiddiol o'r Iseldiroedd, ac mae'r gymdeithas yn tyfu o nerth i nerth.

Dywed Susan mai un o fendithion y defaid yw eu bod yn dod ag ŵyn yn rhwydd a bod yr ŵyn wedyn yn rhoi pwysau ymlaen yn gyflym. Maent yn ddefaid tawel a chyfeillgar iawn, ond nid ydynt yn or-hoff o'r glaw. Does ryfedd felly fod gan Susan shed bren ar eu cyfer gyda digon o le ynddi iddynt gysgodi! Bydd rhai o'r defaid magu a'r hyrddod yn cael eu gwerthu mewn arwerthiannau mor bell â Chaerliwelydd (Carlisle), a bydd rhai o'r ŵyn yn cael eu gwerthu i gigydd lleol.

Mae sôn fod eu cig yn cynnwys llai o golestrol na chig defaid eraill, a gobaith Susan yw y bydd mwy a mwy o bobl yn dod i sylweddoli gwerth cadw defaid Zwartbles yn y dyfodol.

  • Sioe Frenhinol Llanelwedd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý