Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Iolo yn derbyn y fedal gan Lywydd yr Eisteddfod, Huw Thomas, yng nghwmni'r Archdderwydd, Dic Jones. Medal Aur i Iolo
Medi 2008
Hanes Iolo ap Gwynn, enillydd y fedal aur am wyddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.

Yng nghanol yr holl firi am y medalau aur Olympaidd a ddaeth i Brydain mae'n braf medru llongyfarch un o drigolion Tal y Bont ar dderbyn y fedal aur am wyddoniaeth yn Eisteddfod Caerdydd. Yn hollol haeddiannol dyfarnwyd y fedal i Dr Iolo ap Gwynn Garregwen a chyflwynwyd y fedal iddo yn ffurfiol ar lwyfan yr Eisteddfod ac yna mewn seremoni hyfryd yn y Pagoda ar y maes - y ddau ddigwyddiad ar brynhawn Iau. Dyma'r ail dro i'r fedal gael ei dyfarnu i'r teulu - anrhydeddwyd ei fam, Dr Eirwen Gwynn yn yr un modd yn Eisteddfod Abertawe dwy flynedd yn ôl.

Ganwyd Iolo yn Llundain yn 1944. Symudodd y teulu i fferm yn Eifionydd yn 1950 a mynychodd ysgolion cynradd Llanystumdwy a Chricieth ac ysgol uwchradd Eifionydd. Symudodd y teulu i Fangor yn 1962 a bu Iolo yn fyfyriwr isradd ac wedyn uwch- radd yn Adran Sãoleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Fe'i penodwyd yn Gydymaith Ymchwil, yn Ddarlithydd ac yna'n Uwch ddarlithydd yn y Brifysgol. Priododd Ellen ( a oedd gyda llaw yn gariad iddo ers dyddiau ysgol ) a bu'r teulu yn byw yn Aberystwyth a Llangwyryfon cyn symud i Garregwen yn 1988. Mae ganddynt dri o blant - Llñr sy'n rhedeg ei fusnes peirianneg ei hun, ac yn byw gyda'i bartner Meleri yn Llandre, Rhian, sy'n byw gyda'i gwr Robbie a'u plentyn Caio Jac yng Nghaerdydd a Rhys, sy'n olffiwr proffesiynol ac yn byw yn Basingstoke gyda'i wraig Hayley a'u plant, Billy a Lucy.

Wrth gyflwyno'r fedal cyfeiriodd Llywydd Llys yr Eisteddfod Huw Thomas at gyfraniad arbennig Iolo i wyddoniaeth yng Nghymru. Roedd naw gwyddonydd arall wedi eu henwebu ond ym marn y Panel Asesu roedd Iolo yn sefyll ben ac ysgwydd uwch ben y lleill. Maes ymchwil Iolo yw datblygu technegau meicrosgopeg electron mewn astudiaethau o gelloedd ac o feinwe cartilag cymalog. Mae'n awdur dros gant o bapurau yn y maes ac yn cyfarwyddo gwaith ymchwil yn Aberystwyth ac yn cyd-weithio gydag arbenigwyr yng Nghaerdydd, Bilbao a Davos Swisdir. Ei brif ddiddordebau hamdden yw mynydda a ffotograffiaeth ac yng nghanol ei holl brysurdeb mae'n gyson barod i roi o'i amser i gynorthwyo a chysodi Papur Pawb. Roedd yr Archdderwydd, Dic Jones hefyd yn bresennol yn y seremoni yn y Pagoda ac wrth longyfarch Iolo ar ei gamp cyflwynodd yr englynion hyn iddo:

Boed ein defod a'n clodydd - yn deilwng
O dalent gweledydd,
A rhown ein mawl i'r sawl sydd
Wedi'i eni'n wyddonydd

Gwyn ein byd ddyfod hogyn bach - Eirwen
A Harri'n gawr bellach,
Gan dyfu'n eilun ei ach,
Yn olyniaeth ei linach.

Llongyfarchiadau cynnes i Iolo ar ei gamp a phob hwyl ar wisgo'r fedal - gyda choler a thei wrth gwrs!! Sgersli bilif!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý