Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Seren y sioe
Mehefin 2005
Dewiswyd un o dalentau ifainc ardal Papur Pawb o blith nifer o actorion ifanc i chwarae rhan y prif gymeriad yn Oliver!, sioe haf Theatr y Celfyddydau Aberystwyth.

Yr ydym yn ffodus fod gennym gymaint o dalentau ifainc mewn sawl maes yn ardal Papur Pawb, ac un o'r rheini yw Sam, mab Lyn a Mark Ebenezer o Faesyfelin Tal-y-bont.

Dewiswyd Sam o blith nifer o actorion ifainc i chwarae rhan y prif gymeriad yn Sioe Haf Theatr y Celfyddydau Aberystwyth eleni, Oliver!

Richard Cheshire yw'r cynhyrchydd, a bydd y cast yn cynnwys nifer o actorion a chantorion sydd wedi her arfer â gweithio yn y West End. Yr enwocaf ohonynt yw Peter Karrie a fydd yn chwarae rhan y cymeriad Fagin.

Bu gohebydd Papur Pawb yn holi Sam yn ei gartref ddydd Sul cyntaf mis Mehefin ar ôl iddo fod mewn ymarfer. Bydd yn un o'r tri actor ifanc a fydd yn dysgu rhannau Oliver ar gyfer y sioe. Mae angen tri actor rhag ofn i un fynd yn sâl i ddechrau, a hefyd fel bod y tri yn cael seibiant yn eu tro rhwng perfformiadau.

Mae'r ymarferiadau eisoes wedi cychwyn ac mae Sam yn gorfod dawnsio yn ogystal â chanu ac actio. Y canu a'r actio y mae'n ei fwynhau orau, ac ar ei ffordd i'r ymarferion mae'n gwrando ar rai o'r caneuon ar dâp yn y car er mwyn cynhesu ei lais.

Er ei fod wedi gweld sawl sioe gerdd yn y gorffennol - ei ffefryn oedd 'Babes in the Wood'- hon yw'r sioe gyntaf erioed iddo gael rhan ynddi. Mae'n mwynhau'r profiad yn fawr iawn.

"Dwi'n nabod pawb o'r plant sy'n actio yn y sioe, ac r'yn ni'n mwynhau'r ymarferion yn fawr am ein bod ni'n cael lot fawr o hwyl", meddai Sam.

Mae'n cyfaddef nad yw wedi dysgu ei linellau i gyd eto, ond am bythefnos cyfan cyn y perfformiad cyntaf bydd y cast yn gorfod ymarfer bob dydd. Yr ydym yn dymuno'n dda i Sam yn y sioe, ac mae'n siŵr y bydd llawer o ddarllenwyr Papur Pawb am gael prynu tocynnau mewn da bryd.

Bydd y sioe'n cael ei pherfformio rhwng dydd Mawrth, 26 Gorffennaf, a dydd Sadwrn, 27 Awst. Gellir archebu tocynnau drwy ffonio Canolfan y Celfyddydau (01970) 62 32 32.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý