Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Pawb
Taith y Fari Lwyd o amgylch Tal-y-bont Y Fari Lwyd
Chwefror 2008
Prin nad oes angen cyflwyno'r un ddown i adnabod y tro hyn, gen ei bod wedi talu ymweliad â sawl cartref yn Nhal-y-bont yn ddiweddar, gan dderbyn croeso cynnes ymhob tŷ.

Er hynny, nid yw'n byw yn y pentref ac mewn gwirionedd gellid dweud nad yw yn byw yn unman ag eto'n byw mewn sawl lle yng Nghymru. Fe fu ar ei thaith ymweld ar adeg troad y flwyddyn ac ar ôl hynny ni welir hi am ddeuddeg mis arall. Person rhyfedd i nabod? Wel, nid person o gwbl, ond rhan ganolog o'n hanes gwerin ac un o draddodiadau pwysicaf y Calan, sef y Fari Lwyd.

Cefais rywfaint o'r hanes gan Jeremy Turner a fu'n tywys y Fari o dÅ· i dÅ· gyda chriw llawen o blant ac oedolion yn ei ddilyn cyn cyrraedd pen y daith mewn noson hynod o ddifyr yn y Clwb Nos Wener yn y Llew Gwyn. Er mai Jeremy atebodd y cwestiynau, mae'r wybodaeth i gyd yn dod wrth gwrs "from the horse's mouth" ('na ddigon o hwnna, Gol).

Mae'r tarddiad y Fari yn mynd â ni nôl i'r oes cyn Crist ac yn rhan o ddiwylliant paganaidd y Celtiaid. Mae'r pen ceffyl yn arwydd o ffrwythlondeb ac yn dynodi'r treiglad o'r hen flwyddyn i'r newydd - terfyn ar yr Hydref a'r Gaeaf ac edrych ymlaen at dyfiant a chynhaeaf y Gwanwyn a'r Haf. Mae Jeremy yn cyfeirio at y lle canolog i'r ceffyl yn niwylliant y Celtiaid, yn ein llenyddiaeth ac yn ein canu gwerin, er enghraifft y sôn am y March Hud a'r hanes am dorri clustiau'r meirch chwedlau'r Mabinogi ac yn y gân werin, 'Mae Gen i Farch Glas'.

Yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y Fari Lwyd oedd yr enw a roed mynychaf yng Nghymru ar y pen neu ffigur ceffyl yr arferai partïon 'canu gwaseila' ei gludo o ddrws i ddrws yn ystod tymor Calan - nid ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn ond yr hen Galan, deuddeg dydd yn hwyrach. Mae tystiolaeth yn dangos fod tywys y Fari yn arferol mewn sawl man yng ngorllewin a de Cymru - yn Sir Benfro a Chei Newydd er enghraifft - ond bod yr arfer ar ei gryfaf yn y De ac yn arbennig ym mhlwyf Llangynwyd uwchben Maesteg. Ma 'na seremonïau tebyg hefyd yn Iwerddon, gwledydd Llychlyn ac Awstria (gyda'r cysylltiad Celtaidd yn gryf yn yr olaf o rhain).

Fe fyddai gan y Fari ei gosgordd swyddogol - ac mae'r rhain yn amrywio o ardal i ardal. Ond bob amser yn y parti fyddai'r Sarjant yn ei thywys ac yn 'gweithio'r' pen. Yn naturiol mae un person o dan y clogyn gwyn (Matthew Clubb ym mharti Jeremy) ac weithiau fe gewch y Meriman gyda'i ffidil, y Cadi a'r Bili, sef dyn wedi gwisgo fel merch, cariwr y Fedwen a'r Pwnsh a'r Jiwdi.

Ar gychwyn y ddefod canai'r parti gyfres o benillion traddodiadol tu allan i ddrws y tŷ^. Yna dechreuai'r Sarjant yr holi a'r ateb, sef y 'pwnco neu'r ddadl (ar yr un dôn, mewn cyfuniad o benillion traddodiadol a rhai 'difyfyr') rhwng aelod o'r parti a gwrthwynebydd y tu arall i ddrws y tŷ^. Fel arfer, ceid tynnu coes yn lled galed wrth i'r naill ochr ddifrïo'r llall am ei ganu angherddgar, ei feddwdod, ei grintachrwydd, ag ati. Disgwylid i griw'r Fari Lwyd drechu yn y ddadl cyn ennill mynediad i'r tŷ^ a chael yno darn o lo, gacenni a diod ac, o bosibl, rodd ariannol - rhain oll yn arwyddion o gynhesrwydd, cynhaliaeth ac efallai cyfoeth y flwyddyn newydd.

Weithiau, wedi terfynu'r 'pwnco', canai'r parti benillion ychwanegol yn cyflwyno'i holl aelodau ac yr oedd hefyd gân ffarwel y gellid ei chanu wedi'r tipyn difyrrwch ar yr aelwyd. Dyma'r penillion agoriadol:

Wel dyma ni'n dŵad
Gyfeillion diniwad
I ofyn am gennad i ganu.

Os na chawn ni gennad,
Cewch glywed ar ganiad
Beth fydd ein dymuniad - nos heno

Mae Mari Lwyd lawen
Yn dod i'ch tÅ·^'n rhonden
A chanu yw ei diben - mi dybiaf

Rhowch glywad wÅ·r difrad
O ble ry'ch chi'n dŵad
A beth yw'ch gofyniad gaf enwi

Am y pen ceffyl, byddai hwnnw wedi ei gladdu mewn calch am gyfnod go hir i gael gwared ag unrhyw gnawd gan buro'r penglog a'i adael yn glaerwyn. Fel y gwelwyd pan aeth y criw o gwmpas Tal-y-bont byddai'r gweddill o'r parti wedi duo eu hwynebau gyda glo neu orchudd tebyg. Yn ôl Jeremy mae'r arfer o dduo yn union yr un fath â'r hyn a welir gyda Morris Dancers ac mae Morris fan hyn a chysylltiad clir â'r gair blackamoor neu berson du, tywyll ei groen. Mae'n bosib hefyd y byddai'r criw yn duo eu hwynebau fel na fyddent yn cael eu hadnabod yn nhywyllwch y nos wrth fynd o dŷ i dŷ.

Er ei fod yn dod o un o gymoedd y De nid oes gan Jeremy atgofion personol o'r Fari. Fe gychwynnodd ei ddiddordeb yn yr arfer wyth mlynedd yn ôl ar adeg y Mileniwm pan fu'n arwain gorymdaith y Fari o gwmpas Aberystwyth, ar hyd y prom ac i fyny Constitution Hill lle cynnwyd ffagl i nodi dyfodiad y ganrif newydd. Yn sgil hyn daeth y gwahoddiad i Dal-y-Bont ac erbyn hyn mae ei ymweliad e a gweddill y criw yn rhan allweddol o'r calendr pentrefol.

Yn ddiddorol iawn yn rhan o'i ymweliad mae Jeremy yn canu'r pennill hwn a oedd yn rhan o gyfarch calan Tal y Bont:

Mae dydd Calan wedi gwawrio
Dydd tra hynod, dydd i'w gofio,
Dydd i roddi, dydd i dderbyn
Ydyw'r cyntaf dydd o'r flwyddyn

Un peth sy'n sicr yw bod 'na groeso mawr i Jeremy a'r criw yn y pentre erbyn hyn. Roedd yr adrodd straeon a'r canu yn Llew Gwyn ar ôl yr orymdaith yn goron ar noson hwyliog. Blwyddyn Newydd Dda i'r Fari Lwyd - dewch nôl eto!

GIE

  • Cliciwch i ddarllen mwy am y Fari Lwyd ac i wylio clip fideo o ddynion ym mhentref Llangynwyd ger Maesteg yn canu'r penillion traddodiadol yn y 1960au.

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Peidiwch â datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý