Mae gan y ddau raglen wythnosol ar GTFM 106.9 o'r enw 'Amser Arddegau'. Bob wythnos rhwng 6 a 7 o'r gloch maent yn darlledu o Brifysgol Morgannwg. Fel arfer maent yn chwarae cryno-ddisgiau di-ri, yn cyhoeddi cyhoeddiadau a newyddion o'r ysgol ac weithian maent yn cael y cyfle i gyfweld â gwahanol unigolion ar y gyfer y sioe.
Ar ôl wythnosau o drefnu fe aeth y ddau lawr i'r Theatr Newydd, Caerdydd i gyfweld â Matthew Rhys. "Roeddwn yn gyffrous a nerfus hefyd cyn y cyfweliad", cyfaddefodd Bethan, "ond unwaith i mi gwrdd â Matthew, roedd e mor gwrtais a mor gyfeillgar, nes i anghofio am y nerfau'n gyfangwbl!"
Ychwanegodd Matthew Breese, "Doedd dim amser gen i i boeni am y ffaith ein bod ni'n cwrdd â rhywun mor enwog, oherwydd fy nghyfrifoldeb i oedd i sicrhau bod y lefelau'n gywir ar y recordydd cryno-ddisg".
Roedd Matthew Rhys yng Nghaerdydd gan mai fe a Nia Roberts oedd yn chwarae'r prif-rannau yn Under Milkwood ('Dan-y-Wenallt'). Dywedodd ei fod wrth ei fodd i fod yn ôl yng Nghymru yn gweithio, ac y daw yn ôl bob cyfle a ddaw iddo. "Mae'n wych i ddod nôl i Gymru i weithio, yn arbennig i Gaerdydd. Mae'r ffaith fy mod wedi cael fy newis i fod yn rhan o'r prosiect hwn ar gyfer dathlu hanner can mlwyddiant marwolaeth Dylan Thomas yn fraint ac yn amrhisiadwy".
Mae e wedi bod yn brysur yn actio ar lwyfan ond y mae hefyd wedi cael y cyfle i weithio ym myd y ffilmiau gyda actor enwog arall o Gymru. "Rych chi'n gallu dysgu llawer wrth weithio gyda Anthony Hopkins. Mae e'n berffeithydd ond, ar y llaw arall, mae e'n deip o ddyn sy'n hoffi i chi alw'n "Tony'!" Ychwanegodd "Roedd yn anghredadwy cael y cyfle i weithio gyda fe".
Gofynnodd y disgyblion beth oedd ar y gweill i Matthew ar ôl gorffen y prosiect hwn. "Mae gen i ffilm sy'n dod mas cyn hir o'r enw 'Fakers' ac ym mis Chwefror fe fyddai'n chwarae Romeo yng nghynhyrchiad nesaf 'Romeo a Juliet' yr RSC yn Stratford".
Mae'n amlwg bod nifer o gynhyrchwyr theatr, ffilm a theledu Prydain ac America yn gallu gwerthfawrogi talentau amrywiol yr actor ifanc hwn o Gaerdydd, a gobeithiwn yn fawr ei weld yn actio nôl yng Nghymru yn y dyfodol agos.
Fe fydd cyfweliad Matthew Rhys yn cael ei ddarlledu'n rhannol, ac yn wythnosol ar (3TPM 106.9, bob nos Fawrth rhwng 6 a 7. Os hoffech fwy o wybodaeth am Romeo a Juliet yn Stratford, cysylltwch â'r RSC ar 01789 403403.
Bethan Keogh a Matthew Breese