Ces i amser bythgofiadwy yn yr India o Ionawr hyd ddiwedd Mawrth eleni - adeg da i fynd, ar ôl y glaw mawr a chyn y tywydd crasboeth. Roedd y tymheredd yn y 30au uchel - digon poeth!
Gwnes i fyw gyda theulu yn Tirunelveli, yn Ne Ddwyrain yr India - o dan amodau eithaf llym. Er bod y teulu yn dlawd roeddynt yn hapus iawn ac yn groesawgar. Gwnes ffrindiau da tra'n aros yno.
Gweithiais mewn ysbyty yn arsylwi ac yn helpu ambell i lawdriniaeth. Gwelais sawl genedigaeth `Caesarian' a chefais gyfle i fagu ambell fabi.
Pob penwythnos es i a'r gwirfoddolwyr eraill ar deithiau o amgylch y De. Gwelais yr haul yn machlud dros le roedd tri cefnfor yn cwrdd - y Môr Arabaidd, Cefnfor India a'r Pacific.
Es i glinic AIDS i ymweld a thrafod y clefyd gyda'r staff a chleifion. Mae AIDS yn broblem fawr yn yr India ac mae angen llawer o gymorth i addysgu pobl sut i osgoi a rheoli'r haint.
Teithiais i Trivandrum at glinic Ayurvedic sef canolfan lle mae meddygaeth eiledol yn cael ei ymarfer. Es hefyd i ymweld â chlinig y gwahanglwyfus. Mae'r haint yma yn bodoli yn yr India ond yn anghyffredin erbyn hyn. Cefais fy ngwahodd i briodas - diddorol iawn ac yn lliwgar (gelwir y priodfab yn `bride`).
Dringais fryniau a chyrraedd mannau tawel allan o fwrlwm y trefi a phentrefi. Roedd yn hyfryd dianc o'r sŵn a'r mosies! Golygfa pob dydd oedd gweld gwartheg yn y strydoedd - anifail sanctaidd yn yr India - ac Eliffantod y temlau wedi eu haddurno. Treuliais bythefnos yn teithio ar draws yr India ar drên gan ymweld â Bangalore, Mumbai, Jaipur, Delhi ac Agra.
Teithiais gyda'r bobl gyffredin - pobl gyfeillgar, cymdeithasol a chymwynasgar. Dysgais lawer am eu diwylliant, cu crefydd a'u ffordd o fyw a gwnes sawl ffrind newydd.
Uchafbwynt y daith oedd gweld y Taj Mahal. Dim ond unwaith ges i'r 'deli beli' - mae hyn yn record mae'n debyg.
Anghofia i fyth mo'r profiad a gobeithiaf fynd nôl i ymweld yn y dyfodol.
Heulwen Rees
|