Oherwydd bod y dysgwyr yn gwrando ar Jonsi [ar Â鶹Éç Radio Cymru] wrth ddod i'r gwersi ac yn trafod cynnwys y rhaglen yn gyson yn y dosbarth roeddent am ei wahodd i'r Seremoni Wobrwyo. Penderfynodd Jonsi y byddai'n darlledu ei raglen o'r Brifysgol y bore hwnnw a chafwyd cyfweliadau ar y radio gyda nifer o'r dysgwyr. Roedd yn braf clywed y dysgwyr yn siarad yn gyfforddus gyda Jonsi er mai ond cwta blwyddyn neu ddwy maent wedi bod yn dysgu Cymraeg.
Cyflwynwyd tystysgrifau gan Jonsi i 16 o fyfyrwyr a gwblhaodd y cwrs Cymraeg dwys dros gyfnod o ddwy flynedd ac maent i'w llongyfarch ar eu llwyddiant oherwydd eu brwdfrydedd, eu hymroddiad, eu dycnwch a'u penderfyniad. Hefyd cyflwynwyd tystysgrifau Defnyddio'r Gymraeg i fyfyrwyr o bob lefel yn cynnwys chwech a gyrhaeddodd y lefel uchaf - Defnyddio'r Gymraeg Hyfrededd.
Ar ddiwedd y Seremoni cyflwynwyd tusw o flodau i un o'r myfyrwyr oedd wedi derbyn clod arbennig yn ystod yr haf. Enillodd Julie MacMillan, o Dreorci, wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Sir Fflint. Roedd Julie wedi dysgu Cymraeg yn y Brifysgol yn ystod y tair blynedd diwethaf ac wedi penderfynu newid iaith y cartref i'r Gymraeg oherwydd bod ei phlant yn mynd i Ysgol Gymraeg Ynyswen.
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg yn un o chwe chanolfan rhanbarthol sydd wedi ei sefydlu fel rhan o gynllun Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo dysgu Cymraeg i Oedolion. Gellir cael llyfryn o'r cyrsiau Cymraeg i Oedolion drwy ffonio 01443 483600 neu www.welshlearners.org.uk
Llun ar wefan Jonsi Jonsi ar wefan Â鶹Éç Radio Cymru
|