Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Y plac sy'n nodi man ei eni yng Nghaerffili Evan James Awdur ein Hanthem
Hydref 2009
Hanes Evan James,awdur Hen Wlad fy Nhadau, a aned yng Nghaerffili, gan Gwyn Griffiths
Mewn bwthyn o'r enw Bryngolau yng nghesail hen westy'r "Castle" yng nghanol y dref y'i ganed. Dymchwelwyd y gwesty yn 70 au y ganrif ddiwethaf a bellach saif Neuadd y Gweithwyr ar y safle.

Symudodd y teulu mawr - ganed 14 o blant, tri heb oroesi'u babandod - oddi yno yn fuan i'r Ancient Druid Inn, rhwng Argoed a Llwyncelyn, a buont yn byw am gyfnod yn Ffosyrhebog ar waun Gelligaer.

Ymhen amser, wedi iddo briodi, bu Evan yn cadw'r Druid - ffatri wlân, tafarn a rhes o fythynnod - ac yno ganwyd yr enwocaf o'i blant, James, cyfansoddwr alaw Hen Wlad Fy Nhadau. Ym 1847 symudodd y teulu i Bontypridd, i'r ffatri yn Heolyfelin, ac yno bu byw nes ei farw ym 1878.

Ni chofir amdano bellach ond am eiriau'r anthem. Eto, yn ei ddydd yr oedd yn uchel ei barch fel bardd, cyflogwr teg a diwyd, dinesydd cydwybodol a gŵr a thad gofalus o'i deulu. Nodir ei enw yn rhaglen Eisteddfod Cymreigyddion y Fenni 1838 (ddwywaith!) ymhlith y beirdd a ddisgwylid i anrhydeddu'r ŵyl â'u presenoldeb.

Goroesodd dwy gerdd yn ei groesawu'n frwd i Bontypridd.

Drwy gydol ei oes bu'n weithgar gydag Urdd y Gwir Iforiaid, mudiad elusengar Cymraeg a gwerinol oedd yn codi arian at achosion da drwy gynnal Eisteddfodau ac ati. Yr oedd yn eisteddfodwr brwd, yn cystadlu, yn beirniadu neu yn llywyddu. Ei ddiddordeb mawr arall oedd Gorsedd Cadair Morgannwg a Gwent a bu'n gyfaill da i'w gymydog yn Heolyfelin, y lliwgar a r h yf e d d ol M yf yr M or gan w g - Archdderwydd, gwneuthurwr ac atgyweiriwr clociau.

Ni ellir honni ei fod yn fardd fawr, eto roedd yn gynganeddwr rhwydd a gadawodd lwyth o englynion ar ei ôl - prin ddyrnaid ohonyn nhw welodd olau dydd yn ystod ei oes. Sgrifennodd eiriau ar gyfer llu o alawon poblogaidd ei gyfnod - geiriau i'w canu yng nghyfarfodydd yr Iforiaid.

Cyfansoddodd gerddi yn croesawu datblygiadau diwydiannol fel agor y rheilffordd o Bontypridd i Ferthyr ym 1841. Ni hiraethai, fel Brynfab a Glanffrwd, am yr hen Forgannwg cyn dyfodiad y "gweithie". Dyn busnes oedd Evan - er mor rhamantus ei agwedd at Dderwyddaeth, ei gariad at yr iaith a'i ddiddordeb yn hanes ei wlad. Yr oedd gwaith yn dod a phobol, a phobol yn dod a busnes.

Yr oedd yn ddarllenwr mawr. Yr oedd yn ei feddiant y ddwy gyfrol o Hanes y Brytaniaid a'r Cymry gan Gweirydd ap Rhys wedi eu rhwymo yn y lledr drutaf - 'doedd Evan ddim yn brin o geiniog neu ddwy. Dengys adroddiadau papur newydd o rai o'i anerchiadau Eisteddfodol ôl darllen mawr a'r un modd draethodau a anfonodd i'r Eisteddfodau. Yr oedd yn gyfarwydd â gweithiau Adam Smith a David Hume.

Yr oedd yn olyniaeth y dynion disglair hynny o'r ddeunawfed ganrif y cyfeiriodd yr Athro Gwyn Alfred Williams atynt fel yr Oleuedigaeth Gymreig. Gwŷr fel Lewis Hopkin o Landyfodwg, ffermwr, crefftwr a bardd a'i dŷ'n llawn llyfrau Cymraeg, Saesneg, Lladin a Ffrangeg; William Edwards, gweinidog Groeswen, cynllunydd Treforys ac adeiladydd pont Pontypridd; Dafydd Niclas y bardd delynor fu'n athro teulu Aberpergwm; Edward Ifan, Ton Coch, ffermwr ac englynwr campus; a Morgan John Rhys, Llanbradach, emynydd, golygydd Y Cylchgrawn Cymraeg oedd yn cyfieithu syniadau crefyddol deïstaidd y Ffrancwr Volney a'i cyhoeddi yn ei gylchgrawn.

Yn ogystal â gwehydd, bu Evan yn dafarnwr a bragwr, a medrai honni bod yn wneuthurwr telynau - adeiladodd ddwy o leiaf. Yr oedd yn fardd ac y mae'n bosib iawn ei fod yn delynor hefyd.

Gŵr gwerth ei gofio.

Gwyn Griffiths


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý