Mae'r gyfres yn cael ei chynhyrchu yng Nghymru ac mae'r pencadlys wedi symud i Ystad Ddiwydiannol Bad Uchaf.
Yno agorwyd stiwdios newydd Â鶹Éç Cymru ar ddiwedd mis Gorffennaf gan Andrew Davies, y Gweinidog Diwydiant. Mae'r stiwdios enfawr yn cynnwys tu fewn y Tardis a setiau ar gyfer Torchwood fydd yn cael ei ddarlledu ar Â鶹Éç3.
Hefyd ar y safle mae gweithdai golygfeydd, offer golygu fideo a stiwdio sain. O ganlyniad i'r cynyrchiadau newydd cyflogir dros 400 o bobl ychwanegol gan y Â鶹Éç yng Nghymru a daw ag incwm sylweddol i'r ardal.
|