Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Yr Athro Hywel Teifi Edwards gydag Allan James Llyfr newydd am Sir Forgannwg
Tachwedd 2002
Cafwyd noson arbennig yn yr Hen Dy, Llangynwyd yn ddiweddar, i lansio llyfr newydd Allan James, Llantrisant sef Diwylliant Gwerin Morgannwg.
Mae Allan yn enedigol o Faesteg a daeth torf i lenwi lolfa'r dafarn i wrando ar Allan yn cyflwyno ei lyfr a sylwadau crafog Hywel Teifi ar bawb a phopeth.

Aredig gydag ychen, canlyn y Fari Lwyd, hela'r dryw, bragu cwrw bach: dyma rai o arferion gwerin hen sir Forgannwg sy'n cael sylw yn y gyfrol.

Cyfres o ddarluniau sy'n cael eu cyflwyno yma, ac maen nhw'n croniclo agweddau ar hanes ardal arbennig ar adeg arbennig.

Clawr Diwylliant Gwerin Morgannwg
Clawr Diwylliant Gwerin Morgannwg
Cawn ddarlun o gymdeithas amaethyddol sydd wedi hen ddiflannu bellach, ond y bu ei gweithgareddau, ei hiaith a'i chymeriadau o ddiddordeb i gofnodwyr a chroniclwyr cydwybodol a oedd yn awyddus i goffáu'r hyn a fu cyn iddo ddadfeilio.

Trwy hyn llwyddwyd i ddiogelu etifeddiaeth a fyddai wedi mynd yn angof llwyr oni bai am eu gweledigaeth a'u hymroddiad.

Er mai ar Fro Morgannwg y mae prif sylw'r gyfrol hon, y gobaith yw y bydd disgrifio natur diwylliant gwerin yr ardal honno yn egluro natur y prosesau a fu'n llywio cymeriad cymunedau tebyg eraill ledled Cymru.

Daw Allan James o Faesteg, ond ymgartrefodd bellach yn Llantrisant. Mae'n Brif Ddarlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Morgannwg, ger Pontypridd, lle y mae'n cyfuno ei ddiddordeb mewn iaith, addysg Gymraeg, a diwylliant ei fro.

Cyhoeddwyr y gyfrol yw Gwasg Gomer a'r pris yw £12.95.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý