Roedd yn gyfle i ddathlu'r buddsoddiad sylweddol mae'r Fenter Iaith, y Â鶹Éç a'r Cyngor Sir yn rhoi i mewn i Barti Ponty ac i edrych ymlaen at wyl arall ym Mharc Ynysangharad ar ddydd Sadwrn 5ed o Orffennaf. Roedd hefyd yn gyfle i Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, dderbyn yn ffurflol Cynllun Addysg Iaith Gymraeg Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf. Hwn yw'r cynllun olaf i gael ei fabwysiadu gan y Bwrdd ac mae'n dilyn trafodaethau maith rhwng y Bwrdd a'r Cyngor. Derbyniwyd tysytysgrif ar ran y Cyngor gan y Cynghorydd Rebecca Winter, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Faterion Datblygiad Plant, yr Ysgolion a Diwylliant.
|