Bydd y digwyddiadau yn dechrau yn gynnar iawn eleni gyda ffilmio dwy raglen "Noson Lawen" ar nos Fercher a nos Iau 28 a 29 o Fehefin yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen Wen, Rhydyfelin, Pontypridd. Nid ydym yn siŵr pwy yn union fydd yn perfformio eto ond y mae enw Dafydd Iwan wedi'i grybwyll ac rwy'n sicr y byddai hynny'n boblogaidd iawn.
Ar y nos Wener 30 o Fehefin y mae Criw CIC yng Nghlwb Y Bont gyda sawl grŵp yn cynnwys "Anweddus" o Ysgol Gyfun y Cymer, "No Star" sef enillwyr Brwydr y Bandiau 2005 ac enillwyr gwobr arall C2 sef "Frizbee" yn cael eu cyflwyno gan gyflwynwyr Â鶹Éç Radio Cymru ar y noson. Mae Frizbee yn rhif 1 yn siart C2 ar hyn o bryd. Mae tocynnau'r noson hon yn rhatach ymlaen llaw nac y bydden nhw ar y noson felly os ydych chi eisiau noson boeth yng Nghlwb y Bont gwnewch yn siŵr o'ch tocyn ymlaen llaw.
Ar ddydd Sadwrn Gorffennaf 1 bydd gyda ni gydweithrediad S4C wrth fod Triongl ar brif lwyfan Parti Ponty a chymeriadau poblogaidd S4C sef Sam Tân, Sali Mali a Superted i gyd yn ymddangos ym mharc Ynysangharad, Pontypridd. Mae Côr yr Anthem Genedlaethol gyda ni hefyd wrth fod 5 o ysgolion y Sir yn dod at ei gilydd i ddathlu etifeddiaeth ein cân cenedlaethol fel rhan o brosiect Cymunedau Yn Gyntaf. Bydd GTFM yn gwneud Roadshow o'r maes, gyda
chyflwynwyr poblogaidd yr orsaf leol yn cael mwy o le nac erioed yn yr ŵyl fwyaf yn eu hardal.
Ydych chi'n gwrando ar sioe Yr Awr Fawr bob dydd Sul? Dyna'ch cyfle chi i gael cyflwyniad i gerddoriaeth Cymraeg.
Yr ysgolion yw craidd Parti Ponty wrth gwrs ac y mae disgwyl i ni weld YGG Evan James, Bronllwyn, Bodringallt, Castellau, Pontsionorton, Abercynon, Heol y Celyn, Llynyforwyn a llawer iawn mwy. Mae ysgolion uwchradd Rhydfelen a'r Cymer wedi addo perfformiadau hefyd yn ystod y diwrnod. Braf ydy cael datgelu hefyd bod cryn dipyn o ysgolion Saesneg yn awyddus i gyfrannu - eisoes y mae ysgolion Penygraig Junior, Pare Primary, Tylorstown a Phenrhys wedi cytuno i berfformio - sydd yn dangos yn glir faint o gefnogaeth sydd i'r Gymraeg yn y gymuned.
Mae nos Sadwrn i'w threfnu o hyd gyda sawl syniad ar y gweill ac y mae Clwb y Bont wedi cadarnhau fel lleoliad.. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn arwain gyda threfniadau dydd Sul a disgwylir y bydd Red Dragon Radio unwaith eto yn chwarae rôl flaengar ar y diwrnod. Er bod llai o Gymraeg o'r llwyfan y mae'r diwrnod yma yn ddiwrnod llawn hwyl sy'n caniatâu i ni gwrdd â phobl newydd i'r Gymraeg.
Bydd stondinau Cymraeg gan gynnwys Corlan Goffi Cymunedau'n Gyntaf, Cyfieithwyr, Dysgwyr CYD a'r colegau lleol i gyd ar gael ar y ddau ddiwrnod yn ogystal â wal ddringo a chestyll neidio gan ddibynnu ar y tywydd wrth gwrs. Mae gobaith y bydd Gwasanaeth Tân De Cymru gyda ni hefyd gyda Injan Dan, arddangosfeydd a gemau eraill.
Bydd yr Urdd yn trefnu chwaraeon yn ôl eu harter yn ogystal â rhedeg stondinau gwahanol ar y maes. Bydd Mudiad Ysgolion Meithrin yno i ddiddanu'r plant bach a chynnig llefydd mewn cylchoedd chwarae a chylchoedd ti a fi. Cewch gyfle hefyd i brynu nwyddau diolch i Siop y Bont.
I gyd at ei gilydd mae Parti Ponty yn edrych yn dda iawn hyd yma!
Menter Iaith Rhondda Cynon Taf
|