Erbyn hyn, lledodd yr hanes am lwyddiant y noson
fawr a mentrodd sawl "dieithryn" (heb sôn
am y Tywysog!) i'n plith er mwyn cael
rhannu yn y mwynhad. Da hefyd oedd gweld
cymaint o blant yno yn cyd ganu a
chwerthin heb sôn am godi ofn ar y tadau
dewr a geisiodd ganu'r Haka!
'Roedd pawb yn edmygu acen Ffrengig
Hercule Poirot a chafwyd trafferth i adnabod
y delynores ifanc ddeniadol! Unwaith eto
daeth rhwystredigaeth wrth y til electronig
yn Tesco! A oes unrhyw aelod yn mentro
i'w ddefnyddio? Gwelwyd doniau Ifan y
tafleisiwr wrth i'w ffrind Llew Llwydrew
gyfansoddi cerdd ar gyfer ambell un yn y
gynulleidfa. Pwy wraig na fyddai'n falch o
gael ei chyfarch, "Ti yw fy salad!"
Efallai y bydd yna barti llefaru o ferched
hÅ·n, heini yn cystadlu yn Eisteddfod yr
Urdd, a Chôr Y Ddafad Ddu yn y Bala, er
bod "cythraul y cystadlu bron â llethu eu
calonnau!"
Daeth y môr ladron wedi "eu breichio hyd
eu dannedd" (deall?) i godi ofn arnom. Ond
'roedd Madam Dwrlyn yn ffyddiog bod
amser gwell i ddod wrth geisio rhagweld
digwyddiadau 2009, er bod y bancwyr yn eu
siwtiau llwyd yn llawn gofid a gwae wrth
drafod effaith y dirwasgiad ar enwau llefydd
cyfagos. Ydych chi'n gwybod ble mae
Casaillaw? A phwy na allai gydymdeimlo â
throeon trwstan Mr. A. Dai Ladwr druan?
Bu'n noson gofiadwy. Diolch i bob un o'r
perfformwyr brwdfrydig a thalentog, ac i
Siwan Rhys am gyfeilio. Ond unwaith eto
diolch yn arbennig i Margaret ac Ifan
Roberts am eu holl waith yn creu noson
mor ddifyr.
|