Cynhelir nifer o nosweithiau roc a phop a rap ac ati yn y Gymraeg yn ystod y misoedd nesaf, gyda rowndiau sirol a rhanbarthol Brwydr y Bandiau Mentrau laith Cymru Cyf a Â鶹Éç Radio Cymru C2 yn yng Nghlwb y Bont ar 14 o ai, 2005. Bydd gwahoddiad i bob band newydd roi cynnig arni, ac wedyn yn y Ffatri Bob ar 18fed o Fehefin, 2005 i'r goreuon gystadlu yn rownd ranbarthol, gyda'r enillwyr yn mynd ymlaen at y frwydr olaf ar lefel cenedlaethol gyda'r cyfle i ennill gwobrau gwerth chweil iawn diolch i'r Â鶹Éç. Ac yn fuan wedyn fe fydd noson fawreddog yn caeI ei chynnal yn y Miwni Pontypridd feI rhan o benwythnos Parti Ponty ar ddydd Sadwrn yr ail o Orffennaf.
|