Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Plant yn Ysgol Khuthala Codi pontydd â De Affrica
Hydref 2008
Mae partneriaeth newydd wedi ei sefydlu rhwng ysgolion yr ardal ac ysgolion yn Ne Affrica ac Uganda.

Khomanani yw'r enw a roddwyd ar bartneriaeth newydd sbon sydd wedi'i sefydlu rhwng Ysgol Gyfun Rhydfelen, Ysgol Gynradd Garth Olwg, Ysgol Gymraeg Pont Siôn Norton ac ysgolion yn Ne Affrica ac Uganda.

Ariannir y bartneriaeth gan y Cyngor Prydeinig fel rhan o'i gynllun 'Connecting Classrooms'.

Ar ddiwedd mis Gorffennaf teithiodd tair athrawes o'r clwstwr lleol i dreulio wythnos yn cael blas ar draddodiadau a diwylliant unigryw treflan Soweto yn Ne Affrica.

Estynwyd croeso twymgalon i'r athrawesau gan y gymuned a phrofwyd cyfeillgarwch a charedigrwydd bythgofiadwy.

Cafwyd cyfle i ymweld ac ymuno mewn gwersi mewn tair ysgol, gydag athrawon a disgyblion, yn rhannu profiadau am ddiwylliannau a systemau addysg.

Roedd bwrlwm a brwdfrydedd y disgyblion a'r athrawon at addysg wedi bod yn ysbrydoliaeth. Bu'r ymweliad yn agoriad llygaid ac fe fydd y gadwyn gyswllt yn cryfhau ymhellach wrth i'r profiadau gael eu rhannu gyda disgyblion Cymru.

Bydd cyd-ddathlu achlysuron yn ystod y flwyddyn yn gyfle i godi ymwybyddiaeth disgyblion ein hysgolion, er mwyn meithrin perthynas glos rhwng disgyblion y ddwy wlad trwy gyfathrebu unigol â grwpiau trwy e-bost a fideo gynadledda.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý