Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Dôl yr Eryrod Mae'r eryr wedi glanio!
Tachwedd 2008
Yn dilyn agoriad canolfan siopa newydd Wrecsam, mae'r Clawdd yn rhannu sylwadau ac yn eich gwahodd i roi eich barn.

Mae canolfan siopa newydd Wrecsam wedi agor ar hen safle lle bu gynt ffair geffylau ac wedyn safle archfarchnad ASDA. Hawlier y daw Wrecsam i'r 100 uchaf o ganolfannau siopau Prydain Fawr!

Holwyd gan rai paham na roddwyd to gwydr ar y ganolfan er mwyn cysgodi'r ymwelwyr rhag tywydd garw ac oerni?

Bydd ar agor hyd hanner nos bob noson gan gynnwys nos Sul, ac ar nos Wener a Sadwrn hyd 2 o'r gloch y bore. Tybed a fydd o fendith i gadw ieuenctid y fro oddi ar y strydoedd, neu ynteu a fydd yn felltith drwy adael iddynt wastraffu mwy o'u hamser yno?

Yn ôl y sôn mae cais am agor clwb nos ar hen safle M&S gynt. Tybed a fydd canol yr hen dref yn gwagio efallai ac yn llawn o siopau wedi cau, neu tybed a wnaiff y datblygiad ddenu busnesau newydd i'w llenwi?

Mae crefftwaith o waliau llechi i'w hedmygu ac yn creu awyrgylch arbennig yn y ganolfan, yn enwedig o amgylch y rhaeadr dŵr sy'n llifo o ris i ris yn steil y 'Spanish Steps'.

Mae bysus pob chwarter awr ar gael i gario siopwyr o ganol y dref. Clywir cwynion yn barod bod y ganolfan newydd yn rhy bell o orsaf bysus Stryd y Brenin ac o'r canolfannau siopau erall.

Beth yw eich barn chi am y ganolfan newydd? Sut ydych chi'n meddwl bydd hi'n effeithio ar ganol tref Wrecsam? Defnyddiwch y blwch isod i ddweud eich dweud.


Cyfrannwch

Amy o Wrecsam
Dwi'n meddwl bod y ganolfan siopa yn dda a bydd yn gwneud i fwy o bobl ymwled â'r dref! Ond dwi'n gallu cydymdeimlo efo pobl sy'n meddwl mae'n rhy bell i gerdded.
Mon Apr 13 18:29:05 2009


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý