Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Bwyd ffres Colofn Liz - Bwyd yn ei dymor
Ionawr 2006
Blwyddyn newydd dda i chwi i gyd. Wna i ddim dechrau'r un fath â'r holl golofnau coginio drwy awgrymu deiets.
Mae'r amrywiaeth deiets (ar gyfer colli pwysau'n bennaf) s'yn y papurau dyddiol, yr wythnosolion ac yn feunyddiol ar y bocs bach yn ddigon i hala dyn yn benwan.Bwyd cysurlon ydy'r ateb yn y gaeaf fel hyn ac mae digon o ryseitiau ar gael ar gyfer potes, caserols neu gawl blasus sy siŵr o fod o gysur i unrhyw un i'w cynnal drwy'r hirlwm.

Gyda bwydydd cartre fel hyn does dim rhaid torri'r banc ac maen nhw'n addas ar gyfer eu paratoi o flaen llaw. Maen nhw'n hwylus iawn hefyd ar gyfer eu rhewi mewn desglau ffoil. Gall cawl neu botes fod mor blaen a chyfoethog ag a fynnwch a gall gael ei weini fel dechrau da i brydau ysgafn, fel prif gwrs neu fel cwrs interim sy'n prysur ennill ei le unwaith eto. Gwyliwch, fodd bynnag rhag gweini gormod neu fydd dim lle i'r prif gwrs.

Mae'n rhyfedd iawn fel mae bwydydd yn dod yn boblogaidd ac yna'n llithro'n ôl i'r cysgod yn sydyn. Pan oedden ni'n blant roedd cawl pwmpen bron mor ddifriol â chawl erfin yr hen ddywediad. Yr hen ddihareb oedd 'Esmwyth cwsg cawl erfin' ynte!

Pryd ffwrdd â hi, pryd gwerinol, pryd bob dydd a dim peryg fod neb yn byw yn uwch na'i stad! Ond bellach mae cawl `Butternut squash' yn cael ei weini yn y lleoedd bwyta mwyaf `posh' (ydy wir mae'r gair `posh' ei hun yn ôl yn y ffasiwn). Mae'r pwmpenni melyn hyn neu gowrds yn eitha cyffredin yn ein harchfarchnadoedd. Rwy'n credu mai'r math cyffredin Waltham sy'n y siopau ar hyn o bryd ac maen nhw wedi dod yn wreiddiol o Massachusetts . Maen nhw'n llawer llai ac yn fwy tyner na'r rhai oedd yn ein siopau ar gyfer Calan Gaea. A wir i chi rwyf newydd fod ar y we a sylweddoli fod y llysieuyn hyn yn llesol iawn i ni ac mae llawer un o'r cogyddion enwog yn argymell ei fwyta ar gyfer colli pwysau!

Fy mwriad yw rhannu gyda chi rysait ar gyfer cawl pwmpen o'r llyfr `Fruits of the Earth' Adrian Bailey a gyhoeddwyd yn 1986 gan Wasg Michael Joseph, Llundain. Gellwch dorri lawr ar yr hufen a'r menyn a defnyddiwch laeth sgim wrth ei baratoi.

CAWL PWMPEN FELEN
Defnyddiau - digon i 4 i ddechrau neu 6 i gwrs interim:
Pwys (450 gram) o bwmpen felen wedi'i thorri'n sgwariau
1 nionyn (wedi'i falu)
Owns (30gram) o fenyn neu olew
Tri chwarter peint (425 ml) o laeth sgim neu hanner sgim
Ychydig o nytmeg wedi'i ratio
Tair llond llwy fwrdd o hufen (os mynner)
Ychydig o sudd lemon
Pupur a halen

Dull:
Cwciwch y bwmpen mewn ychydig o ddŵr am tua chwarter awr. Yn y cyfamser ffri¬wch y nionyn mewn ychydig o fenyn. Cymysgwch y cwbl yn dda gyda pheiriant cymysgu neu mi wnaiff stwnsiwr cyffredin y tro. Ychwanegwch y llaeth (a'r hufen) a'i gynhesu'n ofalus. Sesnwch gyda phupur a halen ac yna ychwanegwch y sudd lemon a gratiwch ychydig o nytmeg ffres drosto. Gweinwch gyda bara o'ch dewis neu paratowch grwtons bach.

Hwyl ar y cwcio
Liz Williams


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý