Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Gwylio gêm ar y Cae Ras Y Cae Ras
Mai 2007
Atgofion Personol Alun Davies
Nid wyf yn ymddiheuro am ollwng enwau - Highbury, Anfield, Goodison Park, Wembley, Stamford Bridge, Old Trafford, Stoke City, Parc yr Arfau.
Do, bum ynddynt i gyd a gweld y cewri'n chware o'r 1930au ymlaen, ond yn y diwedd yr anwylaf oll i mi yw Cae Ras Wrecsam.

Y gemau pêl-droed cyntaf a welais oedd ar Sgôr Ffynnon Cwrw a'r cae hwnnw ar Ffordd Gefn, Bwlchgwyn. Rhedai'r cae o un gôl i'r llall at hyd cefnau o gae gyda'r canlyniad nad oedd chwaraewyr yr asgell dde byth yn gweld chwaraewyr yr asgell chwith!

Er ei fod yn flaenor digon parchus 'roedd fy nhad i'n gefnogwr brwd pêl-droed a gallai yntau ymffrostio iddo weld rhai o gewri'r gêm gan gynnwys yn arbennig Billy Meredith, Elisha Scott, Horace Blue a Fred Keenor ymysg eraill.

Hyfrydwch arbennig i mi felly oedd mynd efo fo ar brynhawn Sadwrn i weld Wrecsam yn chware ar y Cae Ras ac yn y cyfnod hwnnw y cefais y fraint o weld llawer o enwogion a hefyd hogiau ifanc a ddaeth yn enwog yn ddiweddar.

Yma y gwelais enwogion rhyngwladol gan fod cymaint o gemau (ar un cyfnod mwy nag unrhyw gae pêl-droed drwy'r wlad) yn cael eu chware yma - cyn bod Stadiwm y Mileniwm! Nid oes ofod i'w henwi i gyd ond dyma un neu ddau:

Peter Doherty (y mewnwr chwith gorau am wn i) yn chwarae i Iwerddon, Ben Williams (Everton ) yn torri'r goes yn erbyn yr Iwerddon, John Charles yn cael ei gam-drîn yn erbyn Awstria, Tommy Griffiths, boi lleol cyn mynd ymlaen i leoedd uwch, Ehud Rogers o'r Waen a aeth fel Arfon Griffiths yn ddiweddarach i'r Arsenal, Tommy Bamford, Alf Jones bach oedd yn gawr o gefnwr, T.G. Jones yn chwarae ei gêm gyntaf i ail dîm Wrecsam cyn symud yn ddiweddarach i Everton. Cefais y pleser flynyddoedd wedyn o gyfarfod TG Jones yn Mhwllheli a John Charles ym Mangor.

Gwelais yno'r gemau mawr efo West Ham (Trevor Brooking), Manchester United yn eu hanterth cyn trychineb Munich, a'r diwrnod bythgofiadwy hwnnw pan drechodd Wrecsam gewri'r Arsenal. Erys gôl Mickey Thomas yn y cof am byth.

Ond nid pêl-droed yn unig a welais yma.

Am gyfnod yn y tridegau arferid cynnal gornestau ymaflyd codwm, ac enwau rhamantus fel Anaconda (cawr fel y sarff honno) Madrelli the Greek, Black Eagle a'r butraf o'r cwbl, Jack Pye.

Ymosododd Jack Pye ar Black Eagle o'r tu ôl iddo gan wthio dau fys i fyny'i drwyn a'i lusgo gerfydd ei drwyn ar draws y ring.

Fe'i diarddelwyd, er siom fawr i'r ymwelwyr, o'r herwydd.

'Roedd rhyw gyfaredd ar y Cae Ras, un ai yn y dorf, yn y Stand, neu'r diwrnod arbennig hwnnw pan gefais wahoddiad i eistedd mewn sêt flaen yn y "Turf' - dyna oedd moethusrwydd!

Dymuniadau gorau iddynt yn y dyfodol.

"Mae hi'n racs yma'n Wrecsam" meddai Dic Jones rywdro, ond ddim eto!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý