Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Golygfa yn Fietnam Taith i Vietnam
Pam Vietnam? Oedd ymateb y rhan fwyaf pan glywson nhw mai dyna lle'r oeddem wedi dewis mynd ar ein gwyliau. Pawb yn' meddwl am ryfel, ond mae yna demlau a golygfeydd i ddenu'r ymwelydd, heb sôn am y bobl gyfeillgar.

Fe deithion ni o dde i ogledd Vietnam mewn 11 diwrnod - blas o'r wlad yn unig wrth gwrs. Ein hargraff gyntaf o Ddinas Ho Chi Minh (Saigon) oedd y traffig - cannoedd ar gannoedd o feiciau a beiciau modur 100cc.

Pawb yn gwau o gwmpas yn osgoi ei gilydd yn gelfydd. Neb yn gwisgo helmet diogelwch, byddai hynny'n cyfyngu'r golwg ac yn gwneud pethau'n beryglus meddai Khai, ein tywysydd. Merched tlws mewn gwisgoedd ao dai (dwedwch 'aw sai') gosgeiddig, yn reidio'u beiciau, hefyd yn gwisgo mygydau o ddefnydd lliwgar, a menyg i fyny uwch eu penelin i amddiffyn eu crwyn rhag yr haul a'r llygredd.

Sut i groesi'r ffordd

Teuluoedd o bedwar ar gefn un beic modur; gwelsom hefyd foch a chŵn, ieir a hwyaid yn cael eu cario mewn gwahanol siapiau o fasgedi ar gefn beiciau modur .... ac oergell, a dau ffrâm gwely o bamboo. Cawsom ein dysgu o'r newydd sut i groesi'r hewl - dim synnwyr sefyll fel Tufty yn aros i'r traffig glirio. Rhaid oedd camu o'r pafin a cherdded yn araf heb frys o gwbl, meddai Khai wrthym; fe fyddai'r gyrrwyr yn ein gweld o bell ac yn medru symud i'n hosgoi ni!

Fe gawsom gyfle i ymweld â phentref Dinh Bang, tu allan i Hanoi. Taith cart a cheffyl digon tlawd yr olwg o'r ffordd fawr. Cyrraedd y Deml Do, lle'r oedd gwragedd tu allan yn casglu'r reis oedd wedi sychu ar y llawr. Daeth haid o blant ar eu beiciau i'r golwg.....wedi clywed am yr ymwelwyr.

Ymweld â theml

Teml Tao o'r ddeunawfed ganrif, y ciconia yn sefyll ar ben crwban, gyda'r holl addurniadau a'r colofnau coch, y Deml yn dyblu fel neuadd bentref erbyn hyn. Roedd yno gofeb yn rhestru enwau'r bechgyn o'r pentref a gollodd eu bywydau yn ystod rhyfel y chwedegau, yn cofnodi eu dyddiau geni, dyddiad ymuno â'r fyddin a dyddiad eu marwolaeth prin dri mis yn ddiweddarach fel arfer ... yn eu hugeiniau cynnar. Y criw yn fud.

Pawb yn barod i symud ymlaen wedyn i bafiliwn y pentref i glywed cantorion gwerin, wedi'u gwisgo'n lliwgar dros ben. Y plant yn eu hen grysau-T a shorts wedi'n dilyn ar eu beiciau i wrando ar y perfformio hefyd. Wrth eu bodd yn clywed ni'n eu cyfarch Xin chao.' Pawb eisiau ymarfer eu Saesneg.

Danteithion lleol

Rywsut mae'n ffrind, Rob, ac Adrian yn denu plant atyn nhw bob man ry'n ni'n mynd. Pawb yn gallu dweud "Hello how are you? "Where are you from?" ond yn swil wrth geisio ateb yr un cwestiynau wrthym ni.

Y gwragedd yn ein dilyn i'n bws wedyn yn gwerthu rhyw fath o ddanteithion melys wedi eu gwneud o bean curd a chasanfa, wedi'u lapio mewn dail banana yn lle cling film. Rhaid oedd gofalu ein bod yn deg wrth brynu gan fod un wraig wedi dod i werthu ataf i ac un arall at Adrian. Aeth llwyth o barseli dail banana i'r bws! Roedd y stwff yn flasus ac yn felys. Khai yn poeni am yr effaith ar ein stumog ond yn ein sicrhau bod y bwyd yn lân.

Roedd y bwyd a gawsom yn ystod y gwyliau yn arbennig o dda, er nad oeddem yn ddigon dewr i fwyta bwyd a baratoir ar y strydoedd!

TÅ· bwyta anghyffredin

Cawsom gyfle i fwyta yn Hoa Sua yn Hanoi - tÅ· bwyta sy'n cael ei redeg gan fyfyrwyr o 'gefndiroedd anodd' a phlant y stryd. Na, nid Jamie Oliver sy'n hyfforddi yma, and mae'r syniad yn swnio'n debyg i'w Fifteen ef. Ewch i'w gwefan i ddysgu mwy am Hoa Sua (http:// www.hoasuaschool.com)

Roedd yn anodd cerdded i lawr strydoedd Hanoi heb fod rhywun yn camu o'ch blaen ac yn dechrau'ch holi, yn awyddus i ymarfer eu Saesneg ... ac i werthu crysau-T a chardiau post a glanhau'ch sgidiau.

Cafodd Adrian ei sandalau wedi eu gludo, tra'n sefyllian yn aros i ni'r gwragedd orffen siopa... oedd, roedd rhaid iddo dalu.

Roedd y rhan fwyaf wedi clywed am Gymru. Pam? Wel, pêl droed wrth gwrs. Piti bod rhaid i wyliau ddod i ben, and gallwn edrych ymlaen at weld y lluniau....cannoedd ohonyn nhw!

G.A.T.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý