Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Cae Râs Wrecsam Datblygiad y Cae Râs
Mai 2009
Mae cynlluniau uchelgeisiol i godi 840 o fflatiau myfyrwyr ar y Cae Râs wedi rhannu cefnogwyr y clwb.

Tra bod pawb am weld y datblygiad yn dod ag arian i'r clwb a sicrhau dyfodol disglair i Wrecsam, mae llawer hefyd yn poeni nad y clwb fydd yn elwa o'r datblygiad. Mae'r datblygiad wedi ei rannu'n dair rhan:

1. 510 o fflatiau - ar y maes parcio tu ôl i'r cae.
2. 330 o fflatiau - ar hen garej Dickens (siop y clwb.
3. Eisteddle newydd yn dal 5000 - ar safle'r Kop.

Mae'r rhan gyntaf o'r cynllun wedi cael caniatad llawn gan y cyngor. Mae'r ail ran wedi cael caniatad amlinellol ond does dim manylion am sut y bydd y stand yn cael ei godi heblaw am addewid gan brif weithredwr y clwb, Paul Retout, y bydd yn ei le erbyn 2012. Mae disgwyl i'r gwaith gychwyn ar y fflatiau, fydd yn cael eu gosod i fyfyrwyr tramor sy'n dod i Brifysgol Glyndwr, yn hwyrach yn y flwyddyn.

Ond mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi mynegi pryder na fydd y datblygiad yn cael ei gwblhau, gan adael y clwb heb eisteddle 5000 o seddi fel yr addawyd. Mae pryderon hefyd ynglyn â phwy fydd yn elwa o'r datblygiad, gan mai cwmni o'r enw Wrexham Village Ltd bellach biau'r safle a'r clwb.

Mae Paul Retout, sy'n gyfrifydd o Ruthun, ac Ian Roberts, adeiladwr o Ruthun, yn berchen ar Wrexham Village Ltd. Y cwmni yma, ac nid Clwb Peldroed Wrecsam, fydd yn cael yr arian o werthu neu osod y fflatiau.

Wedi nifer o dymhorau aflwyddiannus ar y cae, mae'r cefnogwyr yn awchu am lwyddiant a chael dianc o'r Blue Square Conference. A fydd codi'r fflatiau'n helpu'r ddihangfa yma? Amser a ddengys.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý