Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Gwyn Harris Cofio Gwyn Harris
Ddiwedd Mawrth daeth y newydd trist am farwolaeth Gwyn Harris, un o gymeriadau amlycaf byd rygbi yma yn y Gogledd.

Roedd Gwyn wedi gwasanaethu yn yr Heddlu am nifer dda o flynyddoedd ac roedd yn hynod boblogaidd ymhlith ei gyd-weithwyr.

Roedd ei golli ac yntau yn ddyn cymharol ifanc wedi iddo ymladd yn ddewr yn erbyn y gwaeledd a'i daliodd yn achos tristwch mawr i bawb a'i hadwaenai. Doedd ryfedd yn y byd i'w arwyl ym Mhentrebychan fod yn achlysur a welodd gannoedd yn talu'r deyrnged olaf.

Lle cynnes yng nghalon pawb

Roedd y nifer sylweddol o hen gyfeillion Gwyn o fyd y bêl hirgron a oedd yn bresennol, y diwrnod hwnnw, yn dyst i'r ffaith iddo ennill parch ac edmygedd ei gyd-chwaraewyr a lle cynnes yng nghalon pawb a ddaeth i'w adnabod.

Yn sicr, roedd yn un o'r chwaraewyr gorau a fu ar feysydd rygbi y Gogledd ac, yn wir, trwy Gymru ben baladr.

Daeth i fyny i'r Gogledd o'i ardal enedigol yn y De yn wr ifanc iawn i ddechrau ar ei yrfa yn yr Heddlu, a gellir dweud yn bur sicr y byddai Gwyn, petai wedi aros yn y De a chael chwarae i un o'n prif glybiau, wedi chwarae llawer gwaith dros Gymru.

Yn ystod yr wythdegau a dechrau'r nawdegau fe ddigwyddodd i Glwb Rygbi Wrecsam allu casglu nifer o chwaraewyr dawnus at ei gilydd a chreu tîm na welir ei fath byth eto yn y Gogledd mae'n debyg.

Cryfder y blaenwyr

Os oes un gyfrinach arbennig ynglyn â'u llwyddiant fel tîm mae'n debyg mai cryfder y blaenwyr oedd hwnnw - ac roedd gan Gwyn lawer i'w wneud â hynny.

Lawer gwaith, bu cefnogwyr tîm Wrecsam yn dyst i un o'r golygfeydd mwyaf cofiadwy y gellid ei gael ar gae rygbi - Gwyn yn cyrraedd sgarmes, yn cymryd y bêl ac yn troi i wynebu ei gefnwyr ei hun fel pe bai am gynnig y bêl iddyn nhw ac, yna, yn troi yn sydyn ac yn mynd am y gwrthwynebwyr nerth ei draed.

Dyna olygfa i beri arswyd ymhlith y tîm arall. Roedd gan y dorf ofn heb sôn am y rhai oedd i fod i'w rwystro a'i dynnu i lawr! Enillai Gwyn dir lawer i'w ochr ac erbyn hynny roedd cefnwyr chwim Wrecsam o fewn cyrraedd i'r llinell gais.

Chwaraeodd y tîm hwnnw o Wrecsam yn erbyn clybiau gorau Cymru. Gallent herio unrhyw dîm heb achos cywilyddio dim.

Pob un yn gosod her

Uchelgais y bechgyn hynny oedd dod at ei gilydd a phob un yn gosod her iddo'i hun sef profi fod ganddo'r ddawn i gystadlu a chyrraedd y safon ofynnol.

Doedden nhw ddim am fynd i leoedd dieithr i ennill gymaint ag allen nhw o arian a boddhau ryw berchnogion a noddwyr cefnog.

Profi rhywbeth iddyn nhw eu hunain a chael mwynhad wrth wneud, dyna oll, a rhoddent fwynhad i'r gwir gefnogwyr yr un pryd. Ie, anrhydedd oedd cael gweld Gwyn a rhai tebyg iddo yn chwarae.

Hyfforddwr arbennig

Yn ddiweddarach daeth Gwyn yn hyfforddwr arbennig - un oedd yn deall ei chwaraewyr ac un a gâi 'r gorau o'u dawn ganddyn nhw drwy roi ei orau ef bob amser.

Yn ôl y sôn roedd ei gryfder corfforol o gymorth mawr i Gwyn pan oedd wrth ei waith, hefyd. Bu i lawer penbwl swnllyd dawelu yn eithaf sydyn wrth deimlo llaw gref Gwyn ar ei war.

Ond pan nad oedd wrth ei waith, un hwyliog a chyfeillgar oedd gyda phawb. Parhaodd i gyfarch pawb yn siriol hyd y diwedd a wynebodd ar ddioddefaint blin yn ddi-ildio yn union fel yr un a wynebai pac o flaenwyr.

Nid oedd ildio yn rhan o'i bersonoliaeth. Rydym i gyd yn mynegi ein cydymdeimlad dwysaf â Pat a fu'n gefn iddo trwy gydol ei waeledd a David eu mab yn ogystal.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý